Bwyd a Diod

Cadw pawb yn hapus ac wedi’u hydradu

Does dim byd yn debyg i ddiod ffres ar ôl cyfnod hir o ymarfer corff, neu ychydig o ddanteithion melys wrth eistedd i wylio perfformiad. Bydd bwyd bob amser yn rhoi gwên ar wynebau pobl, felly beth am ymuno â thîm sy’n falch o wasanaethu ein cwsmeriaid a chymuned Casnewydd.

“Rydyn ni'n dysgu o'n gilydd bob dydd ac rwy’n meddwl ei fod e’n lle anhygoel i weithio.  “Mae'n dod â heriau wrth gwrs, mae gennym heriau, mae gennym rwystredigaethau ond rwy'n credu yn y pen draw ein bod ni i gyd ar yr un llwybr ac rydyn ni i gyd eisiau cyflawni'r nod cyffredin hwnnw.“

Andrea, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes

Manteision Casnewydd Fyw

Adnoddau o bwys. Gan eich bod chi o bwys.

Rydym yn gwybod bod profiadau bywyd pawb yn wahanol. Dyna pam rydym yn cynnig ystod eang o fuddion i'n holl aelodau tîm llawn amser a rhan amser.

  • pension.svg

    Cynllun Pensiwn

    Cewch fynediad i'r cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a pharatoi ar gyfer y dyfodol yn ogystal â mwynhau heddiw.

  • wage.svg

    Cyflog Byw

    Mae Casnewydd Fyw yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol, felly cewch eich gwobrwyo'n deg am ddiwrnod caled o waith.

  • healthcare.svg

    Iechyd a Lles

    Gallwch leihau eich ôl-troed carbon drwy ymuno â'n Cynllun Beicio i'r Gwaith.

  • discounts.svg

    Gostyngiadau

    Gyda gostyngiadau ar fwyd a diod ar draws lleoliadau Casnewydd Fyw.

  • health.svg

    Tâl Salwch

    Rydyn ni’n cynnig tâl salwch statudol i bob gweithiwr dan gontract.

  • family.svg

    Amser Teulu

    Mae pob gweithiwr dan gontract yn gymwys i dderbyn tâl mamolaeth / tadolaeth / mabwysiadu.

  • flexible.svg

    Hyblygrwydd

    Mae rhai rolau'n caniatáu i chi wneud defnydd o'n polisi amser hyblyg.

  • mental-health.svg

    Iechyd Meddwl

    Gall pob gweithiwr ddefnyddio ein Rhaglen Cymorth Cyflogeion ar gyfer lles cyflogeion.

  • recharge.svg

    Seibiant

    Rydym yn cynnig cyfnodau o amser i weithwyr ddefnyddio cyfnod o absenoldeb, gan gynnwys seibiant gyrfa.

  • fitness.svg

    Ffitrwydd

    Gall pob gweithiwr ddewis defnyddio aelodaeth campfa am ddim, sy’n rhoi mynediad i 4 campfa, dros 100 o ddosbarthiadau, nofio a chwaraeon raced.

Lle mae gwerthoedd personol a phroffesiynol yn cwrdd.

Gwerthoedd Cyffredin

Darllenwch straeon am bobl yn dod â'u gwerthoedd personol yn fyw yng Nghasnewydd Fyw.

#

Cyflawni effaith gadarnhaol ar y gymuned

Andrea, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes

Darllen mwy
#

Helpu pobl i dyfu i'w cyfeiriad eu hunain

Cheryl, Swyddog Gweithrediadau Hamdden

Darllen mwy
#

Ymdeimlad o berthyn yn y gymuned

Steve, Hyfforddwr Lles

Darllen mwy
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×