P'un a ydych yn feiciwr profiadol ai peidio, dysgwch sut i gychwyn ar eich taith feicio trac yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas.

Adult Track Taster

Cyflwyniad i’r Trac i Oedolion (Cam 1)

Cyflwyniad 1 awr ar y trac i ddisgyblaeth gyffrous beicio trac.

Dan arweiniad hyfforddwr cymwys Beicio Prydain, bydd beicwyr yn dysgu sut i reoli beic olwynion sefydlog heb frêcs cyn mynd ati i feicio ar drac pren serth fel athletwyr Olympaidd!

Bydd angen i chi allu beicio, ond bydd yr hyfforddwr yn datblygu sgiliau’r beicwyr ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw.  Bydd maint y grŵp yn fach i alluogi oedolion a phobl ifanc i gymryd eu camau cyntaf mewn ffordd ddifyr.

Dyma gam cyntaf ein llwybr achredu beicio trac.

Yn addas ar gyfer 14 oed a hŷn.

Dydd Gwener: 5 - 6pm
Dydd Mawrth: 9 - 10pm
Dydd Sul: Gweler yr ap ar gyfer amseroedd y sesiynau.
Cost: £21.60 sy’n cynnwys llogi beic ac esgidiau.

Archebwch Nawr
Rack of track bikes

Sesiwn i Ddechreuwyr sy’n Oedolion (Cam 2)

Dyma sesiwn galw heibio ddelfrydol i’r rhai sydd wedi cwblhau’r sesiwn Cyflwyniad i’r Trac (Cam 1) ac sydd nawr am fireinio’u sgiliau a gwella’u ffitrwydd cyn mynd ymlaen i sesiwn Gwellhawyr (Cam 3).

Gellir defnyddio'r sesiwn fel sesiwn galw heibio ar gyfer beicwyr gydag achrediad Cyflwyniad i’r Trac (Cam 1) neu gan feicwyr sy'n ceisio magu hyder yn ogystal ag ymarfer eu sgiliau a'u technegau.

Rhaid i'r beicwyr fod wedi beicio'r trac cyn mynychu'r sesiwn naill ai drwy sesiwn Clwb neu'r sesiwn Cyflwyniad i’r Trac (Cam 1). Ni fydd unrhyw feicwyr newydd yn cael mynychu'r sesiwn. 

Dydd Llun: 7 - 8.30pm 
Cost: £16.20 sy’n cynnwys llogi beic ac esgidiau.

Archebwch Nawr
Youth Track Taster

Cyflwyniad i’r Trac i Feicwyr Ifanc

Mae'r sesiwn yn canolbwyntio ar gael beicwyr i arfer ar ddefnyddio beic olwynion sefydlog a beicio'r trac gydag arweiniad hyfforddwr cymwys Beicio Prydain.

Ffordd ddelfrydol o roi cynnig ar feicio trac cyn dechrau cwrs 4 wythnos Ymosodiad Trac!

Addas ar gyfer beicwyr 9-15 oed.

Dydd Llun: 5 - 6pm
Dydd Sadwrn: 9 - 10am 
Cost: £10.80 sy’n cynnwys llogi beic ac esgidiau.

Archebwch Nawr
Track Attack

Ymosodiad Trac Ieuenctid

Cyflwyniad i ddisgyblaeth gyffrous Beicio Trac i blant 9 i 14 oed mewn amgylchedd diogel a strwythuredig, gyda hyfforddwr cymwys a chyfeillgar.

Dim ond 10 beiciwr sy’n cael eu caniatáu ymhob sesiwn, sy’n sicrhau y cewch fanteisio ar gymorth a hyfforddiant neilltuol i’ch helpu i wibio ar hyd y trac!

Bydd cwblhau’r cwrs yn caniatáu i’r beicwyr wedyn fynd i’r Sesiynau Datblygu i Feicwyr Ifanc ar foreau Sadwrn.

Dydd Sadwrn: 1 - 2pm
Cost: £41.20 yn cynnwys beic a llogi esgidiau.

Archebwch Nawr

Rhowch Feicio Trac fel Rhodd

Mae Beicio Trac yn rhodd wych i'r beiciwr brwd yn eich bywyd. Mae gennym amrywiaeth o brofiadau beicio trac fel anrhegion.

gweld anrhegion

Beicwyr â Phrofiad Blaenorol ar y Trac

Os ydych chi eisoes yn cymryd rhan mewn beicio trac yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas neu felodrom arall yn y DU ac yn dymuno dod i un o'n sesiynau galw heibio neu achredu, ffoniwch 01633 656757 a gofynnwch am gael siarad â’r Tîm Beicio.