Beth am gael diwrnod allan o’r swyddfa ar y trac?

Teimlwch adrenalin y pencampwyr drwy wibio ar hyd trac y felodrom, lle daeth Geraint Thomas yn arwr beicio.

Dyma gyfle unigryw i’ch tîm gael profiad o drac beicio, ynghyd â chyfle i adeiladu tîm a rhwydweithio gyda busnesau a sefydliadau lleol eraill. Os oes gennych staff nad ydynt yn hoffi beicio, mae nifer o weithgareddau oddi ar y trac i’w diddori nhw a chyfleoedd i wylio ac annog eu cydweithwyr. 

Pecynnau sydd ar gael

Mae llawer o becynnau ar gael, gyda phob sesiwn cyflwyniad i feicio trac yn cael ei harwain gan hyfforddwr cymwys Beicio Prydain.

Mae pris llogi beic a helmed yn gynwysedig, a bydd pob beiciwr yn cael pâr o fenig beicio i fynd adref â nhw. 

Mae llawer o ddisgyblaethau trac i roi cynnig arnynt, gan gynnwys Treialon Amser 500m, ‘Reidio Olwyn’ a Rasys Dyn Ffordd Awstralia. 
 

Ffoniwch 01633 656757 i drafod eich gofynion ac i archebu eich sesiwn.

Rhowch Feicio Trac fel Rhodd

Mae Beicio Trac yn rhodd wych i'r beiciwr brwd yn eich bywyd. Mae gennym amrywiaeth o brofiadau beicio trac fel anrhegion.

gweld anrhegion