Mae’r cyrtiau wrth ymyl y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd. Mae cyfarwyddiadau ar gael yma.

Gellir archebu cyrtiau am awr rhwng 8am a 6pm ac mae 50 munud yn costio £5.40

Bydd angen i chi archebu cwrt ar ein app neu ar ein gwefan

Mae mynediad i'r cyrtiau awyr agored drwy fynedfa/ardal y Ganolfan Tennis Pwll Rhanbarthol a'r Ganolfan Tennis. 

 

ARCHEBU CWRT 

I gadw cwrt bydd angen cyfrif ar-lein gyda ni arnoch. Ni fydd modd i chi ddefnyddio ein cyrtiau os nad ydych wedi archebu cwrt.

Os oes cyfrif ar-lein gennych neu os ydych wedi derbyn cerdyn Casnewydd Fyw yn y gorffennol, gallwch archebu eich cwrt yma neu ar ein app Casnewydd Fyw.

Os nad oes cyfrif ar-lein gennych, gallwch gofrestru yma

Cliciwch yma i wylio ein fideos â mwy o fanylion ar sut i greu eich app Casnewydd Fyw.

Os oes angen help arnoch gyda’ch cwrt wedi’i archebu cysylltwch ag customerservice@newportlive.co.uk.


Telerau ac Amodau Ychwanegol Archebu Cyrtiau a Chanslo

  • Gall cwsmeriaid archebu un cwrt y dydd yn unig.

  • Ni ellir ad-dalu costau cyrtiau wedi’u harchebu os byddwch yn canslo eich sesiwn gyda llai na 24 awr o rybudd neu os nad ydych yn dod i’ch sesiwn. Os bydd angen i chi ganslo eich sesiwn e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk

  • Os na fydd modd cynnal y sesiwn, byddwn yn ei symud i amser mwy addas neu’n rhoi ad-daliad.  

CYRTIAU TENNIS PARC TREDEGAR

Mae cyrtiau tennis Parc Tredegar yn cael eu rheoli gan Gyngor Dinas Casnewydd. Gallwch archebu sesiwn 1 awr am £4.50 drwy wefan Club Spark LTA.

Archebwch Nawr