Ariannu, noddi neu roi i brosiect

 

Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn hanfodol i bobl Casnewydd drwy ei rhaglen awditoriwm amrywiol, ystod o weithdai creadigol, cyfleoedd addysgol ac arddangosfeydd celf weledol sydd i gyd yn ennyn diddordeb pobl o bob oed. 
 
Er mwyn parhau â'n gwaith gwych o gyrraedd pawb yn y gymuned, gan gynnwys y rheini yn yr ardaloedd anoddaf eu cyrraedd a'r rhai mwyaf difreintiedig, mae angen cymorth unigolion a sefydliadau arnom. 
 
Mae Glan yr Afon yn cynnig nifer o gyfleoedd nawdd o amgylch sioeau penodol, yn dangos adnoddau fel pecynnau addysg, gweithdai, gwersi, lletygarwch corfforaethol a gweithdai adeiladu tîm, sydd i gyd yn agored i fusnesau o bob maint i ddangos eich cefnogaeth i fywyd diwylliannol Casnewydd.  
 
Gall cyfleoedd nawdd gynnwys codi eich proffil busnes drwy eich cynnwys yn ein rhaglen pantomeim, gan gynnwys llenyddiaeth ar ein sgriniau digidol, a chael parth wedi ei enwi ar ôl eich busnes yng Ngŵyl Sblash Mawr.  
 
Mae prosiectau nawdd diweddar wedi golygu gweithio gyda mudiad a noddodd ein pecyn addysg pantomeim a nifer mewn gweithdai pantomeim ysgol. Gallwch ddarllen popeth am y prosiect yma: LINK to PR on current news page. 
 
P'un a yw eich cwmni yn gefnogwr hirdymor o'r celfyddydau neu heb weithio gyda sefydliad celfyddydol o’r blaen rydym bod bob amser yn chwilio am fusnesau a sefydliadau a hoffai gefnogi'r gwaith gwych a wnawn yng Nglan yr Afon. 
 
Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am ein cyfleoedd noddi drwy ffonio 01633 656757 neu e-bostio enquiries@newportlive.co.uk