Accessibility Icon Cliciwch ar yr eicon hwn i agor ein bwydlen hygyrchedd a theilwra ein gwefan i’w gwneud yn haws ei defnyddio a symud drwyddi.

Datganiad hygyrchedd gwefan Casnewydd Fyw

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.newportlive.co.uk

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Casnewydd Fyw. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio trwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio trwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni allwch addasu uchder llinell na’r bwlch rhwng y testun
  •  nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
  • nid oes capsiynau ar ffrydiau fideo byw
  • mae’n anodd llywio drwy rai o'n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:

e-bostiwch:customerservice@newportlive.co.uk

ffoniwch: 01633 656757

Fe wnawn ni ystyried eich cais a chysylltu â chi eto mewn 30 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.  Os byddwch yn sylwi ar broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: public.relations@newport.gov.uk  

Gorsaf

Parcio

Mae 5 lle parcio hygyrch ar gael yn y maes parcio tanddaearol ar y llawr gwaelod.  Nid oes grisiau o’r maes parcio i’r fynedfa ac mae lifft y tu allan i'r maes parcio sy'n arwain at lawr 3 lle mae Campfa'r Orsaf. 

Campfa a Gofod Stiwdio 

Nid oes grisiau o’r fynedfa i’r Orsaf.  Mae gatiau awtomatig.  Mae ramp i'r toiled a'r gawod hygyrch yn Gorsaf.

Canolfan Tennis a Nofio Ranbarthol

Parcio 

Mae nifer da o leoedd parcio hygyrch ar gael yn union gerllaw’r brif fynedfa. 

Mae’r ffordd o'r maes parcio i'r fynedfa'n wastad.  

 

Cyrtiau Tenis 

Mae’r ffordd i'r cyrtiau dan do yn wastad. Mae gan y ganolfan tenis doiled hygyrch a chawod hygyrch o fewn y brif ystafell newid. Gall defnyddwyr cadeiriau olwyn/cadeiriau wthio gyrraedd y balconi gwylio mewn lifft. Mae’r allwedd ar gael gan staff y dderbynfa ar gais. 

  

Pwll Nofio 

Mae gan adeilad y pwll doiled hygyrch a chyfleusterau newid dillad pwll hygyrch ar wahân. Nid oes teclyn codi ar gael yn y cyfleusterau newid. Mae’r llawr yn wastad i gyrraedd ochr y pwll ac mae teclyn codi symudol ar gael i fynd naill ai i’r prif bwll nofio neu’r pwll addysgu. Os oes angen hwn, rhowch wybod i staff y dderbynfa ar ôl cyrraedd.  

  

Gan fod y pwll yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cystadlaethau, mae tymheredd y dŵr ychydig yn oerach na’r pwll yng Nghanolfan Casnewydd. 

 

Y Llawr Cyntaf 

Gellir cyrraedd y llawr cyntaf mewn lifft yn y cyntedd. Mae hyn yn rhoi mynediad i ystafell gyfarfod y swît Dolffin a man gwylio'r pwll nofio. Mae toiledau hygyrch ar y llawr cyntaf. 

Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas

Parcio 

Mae nifer da o leoedd parcio hygyrch ar gael yn union gerllaw’r brif fynedfa. 
Mae mynediad o'r maes parcio i'r fynedfa'n wastad.  
 

Trac beicio/arena fewnol  

Mae cryn bellter rhwng y fynedfa a’r trac, yr ardal 5v5 a'r cyrtiau badminton yng nghanol y trac. Nid yw'r llawr yn wastad ac mae angen defnyddio grisiau neu ramp cymharol serth.  
 
Mae cyfleusterau newid a thoiledau hygyrch ar wahân.
 
Mae ardaloedd 5v5 a'r cyrtiau badminton yng nghanol y trac, felly mae posibilrwydd o sŵn mawr a tharfu ar weithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal. 


Y Llawr Cyntaf 

Gellir cyrraedd y llawr cyntaf mewn lifft yn y dderbynfa. Mae hwn yn rhoi mynediad i'r ystafell ffitrwydd, y stiwdio ddawns ac ardal gwylio'r trac. Mae nifer o leoedd ar gyfer cadeiriau olwyn ym mhob pen y man gwylio. Mae toiledau hygyrch ar y llawr cyntaf. 


Mynediad i’r Gampfa/Ystafell Ager 

Mae gan y lleoliad hwn fynediad â gât ac mae’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn er bod ymyl fach i’r llawr ar y ffordd i’r sawna ac mae’r llwybr yn gul. 

 

 

 

 

 


 

Canolfan Byw'n Actif

Parcio 

Mae bae parcio i bobl anabl ar y brif ffordd y tu allan i'r ganolfan; nid oes mannau wedi'u marcio'n unigol yma.
 
Mae lleoedd parcio ychwanegol i bobl anabl ym maes parcio'r ysgol ond mae hwn yn bellter bach o'r fynedfa ac er ei fod yn gymharol wastad, mae'n cynnwys llethr. 
 

Pwll Nofio 

Mae cyfleusterau toiled a chawodydd hygyrch ar gael. Mae teclyn codi symudol ar gael i fynd i'r pwll nofio. Os oes angen hwn, rhowch wybod i'r dderbynfa wrth i chi gyrraedd.  
 

Y Neuadd Chwaraeon 

Mae gan y Neuadd Chwaraeon fynediad gwastad a chyferbyniad lliwiau da, ac mae'n gwbl amgaeëdig.

Glan yr Afon


Mae celf a diwylliant ar gyfer pawb, ond os oes gennych nam neu ofyniad penodol o ran hygyrchedd, yn aml gall ymweliad â'r theatr neu ganolfan gelfyddydau fod yn fwy cymhleth. Yng Nglan yr Afon rydym yn ceisio cynnig i'n cwsmeriaid yr arfer gorau oll o ran polisi tocynnau teg a hygyrchedd. Mae hyn yn cynnwys:

•    Tocyn am ddim i gynorthwywyr personol neu ofalwyr i bobl mae angen eu cymorth arnynt i ymweld â Glan yr Afon. 

•    Mae naw lle i gadeiriau olwyn yn y theatr ac un ar ddeg o leoedd i gadeiriau olwyn yn y stiwdio.

•    Croesewir cŵn cymorth a gellir gofalu amdanynt yn ystod perfformiadau trwy drefnu hyn ymlaen llawn.


I gael rhagor o fanylion, neu i archebu'r gwasanaethau hyn, cysylltwch â'r tîm ar 01633 656757 neu e-bostiwch riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk 

 

 

•    Gallwch ollwng a chasglu’n union y tu allan i'r fynedfa trwy ddod i fyny at yr atalfeydd ar ochr yr adeilad sy’n agos at y castell. Gwasgwch y seiniwr a byddwch yn cael mynediad.

•    Mae dau le parcio hygyrch ar gyfer deiliaid bathodynnau glas ar bob adeg. Yn anffodus, ni ellir cadw'r lleoedd hyn ymlaen llaw. 

•    Mae mynediad lifft, mynediad i gadeiriau olwyn a chyfleusterau toiled hygyrch ar bob lefel ac eithrio’r Islawr.

•    Mae system drawsyrru is-goch ar gael yn y prif fannau ac yn y theatr stiwdio a cheir y sain orau o ran ansawdd trwy ddefnyddio penset. Os yw'n well gennych ddefnyddio'r switsh T ar eich cymhorthyn clywed, bydd angen i chi wisgo erial dolen sain o amgylch eich gwddf. Gallwch gael benthyg y ddwy eitem o'r swyddfa docynnau. 

•    Mae copïau o'n llyfryn ar gael mewn print bras a fformatau sain ar gais o Glan yr Afon.

•    Gall pobl fyddar neu drwm eu clyw a phobl ddall neu bobl â nam ar eu golwg fwynhau hud sinema'r Glan yr Afon gyda dangosiadau ag is-deitlau a disgrifiadau sain.

•    Cynhelir nifer dethol o berfformiadau bob tymor sydd â disgrifiad sain a dehongliad yn Iaith Arwyddion Prydain.