Mae 21 o sefydliadau blaenllaw yn y sector cyhoeddus sy'n gweithio ledled Gwent heddiw (6 Tachwedd 2020) wedi llofnodi Siarter Teithio Iach, sy'n ymrwymo i gefnogi ac annog staff i deithio mewn ffordd gynaliadwy i'r gwaith ac oddi yno.

Trwy 15 cam gweithredu uchelgeisiol, mae’r siarter yn hybu cerdded, beicio, gweithio ystwyth a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau allyriadau isel iawn.

Mae’r sector cyhoeddus yng Ngwent yn cyflogi bron i draean o oedolion o oedran gwaith. Trwy gydweithio, nod sefydliadau sector cyhoeddus ledled Gwent yw cynyddu cyfran y teithiau cynaliadwy a wneir i leoedd gwaith ac oddi yno, gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd a gwella iechyd pobl Gwent ar gyfer y genhedlaeth bresennol a’r rhai sydd i ddod.

Y sefydliadau sydd wedi llofnodi'r siarter yw: Iechyd Cyhoeddus Aneurin Nevan Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Tai Cymunedol Bron Afon, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent , Heddlu Gwent, y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), Cartrefi Melin, Cyngor Sir Fynwy, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Cartrefi Dinas Casnewydd, Casnewydd Fyw, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Gwasanaeth Achub a Thân, Tai Cymunedol Tai Calon, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, Ymddiriedolaeth Hamdden Tor-faen, Cynghrair Gwirfoddol Tor-faen, Prifysgol De Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Cadeirydd G10 ac Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd, "Gwyddom fod llygredd aer mewn rhannau o Went yn fwy na therfynau cyfreithiol yr UE, gan gynyddu'r risg i iechyd a'r amgylchedd rydym yn byw ynddo.  Mae effeithiau hirdymor llygredd aer yn cynnwys cyfraddau uwch o glefydau ar yr ysgyfaint, clefyd cardiofasgwlaidd a chanser.  Mae trafnidiaeth yn gyfrifol am gyfran sylweddol o lygredd aer, yn enwedig mewn amgylcheddau trefol ac ardaloedd o draffig a thagfeydd uchel, gyda chludiant ffyrdd yn gyfrifol am tua 80% o’r nitrogen deuocsid a fesurir wrth ochr y ffordd.”

Yn ystod pandemig Covid-19, bu'n rhaid i sefydliadau weithredu’n fwy hyblyg, yn ogystal â'r defnyddio mwy o fideo-gynadledda, sydd wedi lleihau'n sylweddol yr angen i staff deithio i safleoedd eraill. Mae tystiolaeth eisoes bod ansawdd yr aer wedi gwella dros y misoedd diwethaf a bydd y siarter hon yn sicrhau bod y newidiadau sydd eisoes wedi'u gwneud yn parhau.