Rhaid i Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-afon aros ar gau ar hyn o bryd nes y bernir ei bod yn ddiogel ailagor gan Lywodraeth Cymru, ond rydym yn dal i weithio'n galed y tu ôl i'r llenni i ddatblygu rhaglen waith y gellir ei defnyddio a'i mwynhau'n ddigidol.

BYDDWCH YN GREADIGOL 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar draws ein sianelau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer yr adnoddau, y digwyddiadau a'r gweithgareddau diweddaraf y gellir eu mwynhau'n ddigidol o gysur eich cartref eich hun. Byddwn hefyd yn lansio canolfan ddiwylliannol ar-lein ar ein gwefan cyn bo hir a fydd yn llawn adnoddau celfyddydol, diwylliant a chreadigol i chi eu mwynhau a chymryd rhan ynddynt.

Os oes gennych unrhyw berfformiadau, arddangosfa, gweithdai neu weithgaredd celfyddydol ar-lein yr hoffech i ni eu rhannu gyda'n dilynwyr a'n cynulleidfaoedd, anfonwch ef at marketing@newportlive.co.uk a cheisiwn wneud yr hyn a allwn i gefnogi hyn. 

LLOGI YSTAFELL

Ni allwn agor ein hystafelloedd cyfarfod na gweithdai o hyd, ond os ydych yn chwilio am le i logi cysylltwch â bookings@newportlive.co.uk a gallwn weld a allwn fodloni eich gofynion mewn un arall o'n lleoliadau Casnewydd Fyw.

PERFFORMIADAU YN 2021

Er na fyddwn yn gallu eich croesawu'n ôl i'n awditoriwm eleni mae gennym amrywiaeth o berfformiadau ar werth ar gyfer 2021. Ar yr adeg ansicr hon, gallwch ein cefnogi drwy brynu tocyn neu daleb theatr y gellir ei amnewid am berfformiad yn y dyfodol.

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd eto yn 2021!