Mae Theatr a Chanolfan Gelf Glan yr Afon yn hynod falch o fod wedi derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu ardaloedd y cyntedd a'r caffi erbyn yr adeg y caniateir i ni ailagor. 

Mae'n bwysig i ni fod unrhyw newidiadau a wneir yn ateb gofynion ein cynulleidfaoedd, ein cwsmeriaid, ein partneriaid a phobl Casnewydd. O’r herwydd, byddem wrth ein bodd yn cael eich adborth i helpu i lywio'r newidiadau a'r datblygiadau.

A fyddech cystal â threulio 10-15 munud i rannu eich barn gyda ni drwy’r arolwg isod erbyn dydd Sul 17 Ionawr 2021. Oni bai eich bod yn dewis rhoi eich manylion i ni, bydd yr holl adborth yn ddienw.  Fel diolch, bydd pawb sy'n rhoi eu hadborth yn cael eu cynnwys mewn raffl am gyfle i ennill £50 mewn talebau i'w defnyddio yng Nglan yr Afon pan fyddwn yn gallu ailagor.

Cwblhewch yr arolwg yma​​

Os ydych yn cael anhawster i weld y byrddau syniadau a’r bwydlenni yn yr arolwg, gallwch eu gweld fel pdfs drwy’r dolenni isod.

Bwrdd syniadau A and Bwydlen A
Bwrdd syniadau B and Bwydlen B

Os byddai'n well gennych gwblhau'r arolwg hwn yn Gymraeg, e-bostiwch marketing@newportlive.co.uk