Mae Casnewydd Fyw wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a bod yn dryloyw am ba wybodaeth rydym yn ei chadw ar bob un o’n cwsmeriaid. 

Diben y polisi hwn yw rhoi esboniad clir i chi ynghylch sut bydd Casnewydd Fyw yn casglu ac yn defnyddio’r  wybodaeth bersonol a gyflwynwch i ni ac a gasglwn ar-lein, dros y ffôn, drwy e-bost, mewn llythyrau neu mewn unrhyw ohebiaeth arall gan drydydd parti.

Sicrhawn ein bod yn defnyddio eich gwybodaeth yn unol â’r holl gyfreithiau cymwys sy’n ymwneud â gwybodaeth bersonol. Mae’r polisi hwn yn esbonio:

  • Pa fath o wybodaeth y gall Casnewydd Fyw ei chasglu amdanoch chi
  • Sut defnyddiwn yr wybodaeth honno
  • A ddatgelwn eich manylion i unrhyw un arall
  • Eich dewisiadau ynglŷn â’r wybodaeth a rowch i ni
  • Sut defnyddiwn gwcis i ddarparu gwasanaethau i chi neu i wella eich defnydd o'n gwefannau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y polisi preifatrwydd a chwcis hwn, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data yng Nghasnewydd Fyw, Canolfan Pwll a Thennis Rhanbarthol, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, NP19 4RA neu e-bostiwch: customerservice@newportlive.co.uk

Pwy ydym ni

Mae Casnewydd Fyw yn cynnal y Ganolfan Byw'n Actif, Gorsaf, Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon  a’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Mae’r Pentref Chwaraeon hefyd yn cynnwys Felodrom Cenedlaethol Cymru, y Pwll Nofio a Chanolfan Denis Rhanbarthol a Stadiwm Casnewydd.

Casnewydd Fyw yw’r dewis cyntaf bellach ar gyfer chwaraeon, hamddena a gweithgareddau diwylliannol yng Nghasnewydd.  Mae tair prif Gampfa Casnewydd Fyw, tri phrif Bwll Nofio, Canolfan Denis a Chanolfan Gelfyddydau a Theatr ranbarthol wedi hen sefydlu.  Mae nifer helaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd, chwaraeon, perfformiadau byw a gweithgareddau diwylliannol ar gael.

Mae gennym raglenni hyfforddi a chyfranogi mewn llawer o chwaraeon ac rydym yn cynnig amrywiaeth eang o aelodaeth.  Mae Casnewydd Fyw yn cynnal rhaglenni Datblygu Chwaraeon a Chelfyddydau ledled y ddinas ac yn rhanbarthol.

Mae Casnewydd Fyw yn fenter gymdeithasol ac yn ymddiriedolaeth elusennol gofrestredig, sy’n golygu bod ein helw yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau a’r cyfleusterau rydym yn eu cynnig. Felly m

ae cwsmeriaid Casnewydd Fyw yn ein helpu i gefnogi ein cymuned leol.
Mae Casnewydd Fyw yn cael ei reoli gan fwrdd o un ar ddeg o ymddiriedolwyr.  Mae Casnewydd Fyw yn cael ei weithredu ar ran Cyngor Dinas Casnewydd.  

Mae Casnewydd Fyw yn gwmni cyfyngedig drwy warant wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni 9323582, ac mae’n elusen gofrestredig, Rhif Elusen 1162220.

Casglu Gwybodaeth a Phrosesu Data

Byddwn yn casglu gwybodaeth yn y ffyrdd canlynol:

  • Gwybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni. Pan fyddwch yn archebu gyda ni neu'n ymuno fel aelod, byddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, rhifau cardiau debyd/credyd, gwybodaeth cyfrif banc os oes angen (e.e. i hwyluso cymryd debydau uniongyrchol) a llun ar gyfer eich cyfrif Casnewydd Fyw. O ran rhifau cardiau credyd/debyd, byddwn yn cadw'r rhain dim ond cyhyd ag y credwn sy'n rhesymol angenrheidiol.  Mae angen y wybodaeth bersonol hon i alluogi Casnewydd Fyw i ddarparu gwasanaethau priodol, i gyfathrebu â chi am eich aelodaeth ac i wirio pwy ydych chi. Mae hyn hefyd yn berthnasol os ydych yn tanysgrifio i'n rhestrau postio, yn cwblhau arolygon at ddibenion ymchwil neu fel arall yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni.  
  • Y wybodaeth a gawn o’ch defnydd o’n gwefan a'n gwasanaethau. Byddwn yn casglu gwybodaeth am y gwasanaethau rydych yn eu defnyddio a sut y byddwch yn eu defnyddio, megis pan wyliwch fideo ar YouTube, ymweld â’n gwefannau neu edrych ar ein hysbysebion a’n cynnwys a rhyngweithio â nhw. 
  • Gwybodaeth gan drydydd parti. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi gan drydydd parti. Gall hyn gynnwys gwybodaeth megis eich enw, eich cyfeiriad post, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn, eich lleoliad daearyddol (ar gyfer dyfeisiau symudol), eich manylion cardiau credyd/debyd.  Gallwn ni, yn debyg i bob cwmni, gadarnhau pa borwr rydych yn ei ddefnyddio, eich cyfeiriad IP a’r systemau gweithredu cyfrifiadurol sy’n cael eu defnyddio a chaiff y wybodaeth hon ei defnyddio i  wella’r gwasanaethau a gynigiwn.

O bryd i'w gilydd rydym yn rhannu data personol gyda thrydydd partïon, sy'n ei brosesu ar ein rhan ar gyfer:

  • Deall eich defnydd o gynnyrch a gwasanaethau o Gasnewydd Fyw,
  • Deall demograffeg ranbarthol,
  • Gwella cynnyrch a gwasanaethau (gan gynnwys ymchwil i'r farchnad), a rheoli cysylltiadau cwsmeriaid,
  • Datblygu cynnyrch,

Yn yr achosion hyn, mae'r data'n anhysbys, ac ni ellir adnabod unigolion cyn ei rannu. 

Mae cyfraith Diogelu Data yn cydnabod bod rhai categorïau o wybodaeth bersonol yn fwy sensitif. Adwaenir hyn fel data personol sensitif ac mae’n ymwneud â gwybodaeth am iechyd, hil, credoau crefyddol a barn wleidyddol.  Ni fyddwn fel arfer yn casglu ‘data personol sensitif’ am ein cwsmeriaid oni bai bod rheswm clir dros wneud hynny.

Defnyddwyr y wefan


Nid yw ein gwefan Casnewydd Fyw (www.newportlive.co.uk) yn cipio a storio unrhyw wybodaeth bersonol am ymwelwyr â’r wefan, ac eithrio pan gyflwynir manylion yn wirfoddol drwy e-bost, neu drwy ddefnyddio ffurflen electronig, neu wrth wneud ymholiad ynghylch ein gwasanaethau.

Yn yr achosion hyn, caiff yr wybodaeth bersonol a gyflwynwch i Gyngor Dinas Casnewydd ei defnyddio i roi i chi’r wybodaeth y gofynnoch chi amdani yn unig. Ni rown eich gwybodaeth bersonol i unrhyw sefydliadau allanol nac unigolion oni bai eich bod yn rhoi eich cydsyniad amlwg.

Dolenni at wefannau eraill

Mae’n bosibl y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, pan fyddwch wedi defnyddio'r dolenni hyn i adael ein safle, dylech ddeall nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol dros ddiogelu a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a rowch wrth ymweld â’r fath wefannau ac ni chaiff y fath wefannau eu rheoli gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus iawn ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n gymwys ar gyfer y wefan dan sylw.

Defnyddio cwcis

Ffeil fach yw cwci, sy’n gofyn am ganiatâd i gael ei rhoi ar yriant caled eich cyfrifiadur. Pan gytunwch, caiff y ffeil ei hychwanegu at eich peiriant. Gall cwcis wneud llawer o dasgau gwahanol. Mae rhai cwcis yn helpu i ddadansoddi traffig ar y we neu’n rhoi gwybod i chi pan fyddwch yn ymweld â safle penodol ayyb.

  • Ein prif wefan Casnewydd Fyw (www.casnewyddfyw.co.uk) yn defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain eraill i:
    • wella eich profiad pori ar ein gwefan
    • gweinyddu'r system gweinydd gwe
    • dangos cynnwys personol a hysbysebion wedi’u targedu i chi
    • dadansoddi traffig ein gwefan
    • deall o ble mae ein hymwelwyr yn dod
  • Rydym yn casglu cyfeiriadau IP ymwelwyr er mwyn gweld pa dudalennau sydd fwyaf poblogaidd. Rydym hefyd yn cadw cyfeiriadau IP o ffurflenni adborth electronig er mwyn monitro’r defnydd ar yr adnodd adborth.
  • Mae ein gwefan Connect MRM (membership.newportlive.co.uk/Connect/Mrmlogin) yn defnyddio’r cwcis canlynol, caiff y rhain eu defnyddio i ddal gwybodaeth hanfodol wrth ddefnyddio’r wefan. Ni ddefnyddir yr wybodaeth hon at unrhyw ddiben arall heblaw am gynhaliaeth hanfodol y wefan hon:   
    • ASP.NET_Session Id - Caiff y cwci hwn ei greu yn awtomatig gan ASP.NET ac mae’n ofynnol ar gyfer ymarferoldeb y wefan. Mae rhagor o fanylion am y cwci hwn ar gael ar http://support.microsoft.com/kb/899918
    • Google Analytics (4 cwci: _utma, _utmb, _utmc, _utmz) - Os caiff ei roi yn ffurfwedd Connect, caiff y cwcis trydydd parti hyn eu creu a'u defnyddio  gan Google i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o ble y daeth ymwelwyr i'r safle a'r tudalennau yr ymwelont â nhw.
    • currentTheme - Mae’n bosibl y bydd rhai hen fersiynau o Connect yn defnyddio’r cwci hwn i storio’r thema weledol bresennol a ddewisodd yr ymwelydd.

 

Sail Gyfreithlon a Buddiannau Cyfreithiol

Pan fyddwn yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol, sicrhawn y gwnawn hyn yn unig yn unol ag o leiaf un o’r seiliau cyfreithlon sydd ar gael i ni o dan gyfraith Diogelu Data.

Un o’r rhain yw lle rydym wedi cael eich cydsyniad penodol i ddefnyddio eich gwybodaeth at ddiben a hysbyswyd yn flaenorol, megis anfon marchnata trwy e-bost/neges destun neu roi cynnyrch, gwasanaeth neu wybodaeth i chi ar eich cais.

Un arall yw ble mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ddefnyddio neu ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi – er enghraifft lle y cawn orchymyn gan lys neu awdurdod rheoleiddiol neu mae’n gyfreithiol ofynnol i gadw manylion trafodion at ddibenion cyfrifo/treth.

O dan rai amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y byddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol lle y bo angen fel rhan o'n buddiant cyfreithiol fel elusen, mae hyn yn cynnwys gallu:

  • Anfon deunydd marchnata uniongyrchol at gefnogwyr trwy’r post neu gysylltu â nhw dros y ffôn at ddibenion codi arian (yn amodol ar wirio yn erbyn y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn ac unrhyw ddewisiadau marchnata).  Rhagor o wybodaeth yn Deunyddiau Marchnata isod:
  • Cynnal ymchwil er mwyn deall yn well pwy yw ein cefnogwyr a thargedu ein gweithgarwch yn well;
  • Monitro â phwy rydym yn ymdrin er mwyn amddiffyn ein helusen rhag twyll, cael arian trwy dwyll a risgiau eraill;

Ym mhob achos, byddwn yn cydbwyso ein buddion cyfreithiol yn erbyn eich hawliau fel unigolyn ac yn sicrhau nad ydym ond yn defnyddio gwybodaeth bersonol mewn ffordd neu at ddiben y byddech yn ei ddisgwyl yn unol â'r Polisi hwn ac nid yw hynny'n ymyrryd â'ch preifatrwydd nac ar hoffterau marchnata a fynegoch o'r blaen.

Pan fyddwn yn prosesu data personol sensitif (fel y soniwyd amdano uchod), byddwn yn sicrhau nad ydym ond yn gwneud hynny yn unol ag un o'r seiliau cyfreithiol ychwanegol am brosesu megis pan ydych wedi rhoi cydsyniad penodol neu wedi gwneud yr wybodaeth honno'n hollol gyhoeddus. Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn dweud wrthych pa ddata personol sensitif rydym yn ei chasglu a pham.

 

Deunyddiau Marchnata

Rydym eisiau sicrhau eich bod yn derbyn y lefel o wybodaeth am Gasnewydd Fyw sy'n addas i chi.

Marchnata E-bost/Neges destun:
Os rhowch eich cydsyniad i ni ynghyd â'ch cyfeiriad e-bost a/neu rif ffôn symudol, mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi at ddibenion marchnata trwy e-bost neu neges destun. Trwy danysgrifio i e-byst Casnewydd Fyw neu ddewis cyfathrebiadau e-bost gan Gasnewydd Fyw, rydych yn rhoi’r hawl i ni ddefnyddio e-byst at ddibenion marchnata trwy e-bost a thargedu hysbysebion.


Cyfryngau Cymdeithasol:
Eich dewis chi bob tro yw ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn dysgu rhagor am yr hyn y gall Casnewydd Fyw ei gynnig i chi, a chewch roi'r gorau i'n dilyn ni unrhyw bryd. Nid ydym ond yn defnyddio'r data rydych yn ei ddarparu ar eich proffiliau fel data dienw i’w dadansoddi ac adrodd amdano. Os ydym yn eich dilyn ac ni ydych eisiau i ni wneud hynny, gallwch ddod â hynny i ben ar unrhyw adeg. Rydym yn eich cynghori i wirio eich gosodiadau preifatrwydd ar eich proffiliau.  Dysgwch ragor am osodiadau preifatrwydd ar gyfer Facebook, Twitter ac Instagram.


Marchnata drwy’r post/dros y ffôn:
Os ydych wedi rhoi eich cyfeiriad post neu eich rhif ffôn i ni, mae’n bosibl y byddwn yn anfon post uniongyrchol atoch neu eich ffonio ynglŷn â'n gwaith oni bai eich bod wedi dweud wrthym y byddai'n well gennych beidio â derbyn y fath wybodaeth. Byddwn yn gwirio rhifau ffôn gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn ac ni fyddwn ond yn gwneud galwadau ffôn i chi pan fydd eich rhif ffôn wedi'i restru ar y TPS os ydych wedi dweud wrthym yn benodol nad ydych yn gwrthwynebu'r fath alwadau ac wedi cydsynio i’w derbyn.


Eich dewis chi:
Eich dewis chi bob amser yw a ydych chi eisiau derbyn gwybodaeth am Gasnewydd Fyw a phopeth rydym yn ei gynnig i chi. Os nad ydych eisiau i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol fel hyn, nodwch hynny ar y ffurflen a ddefnyddiwn i gasglu eich data.


Cewch ddewis gofyn am beidio â derbyn cyfathrebiadau marchnata trwy glicio ar ddolen 'unsubsrcibe’ ar ddiwedd ein e-byst marchnata. Cewch hefyd newid unrhyw un o’ch hoffterau o ran cysylltu unrhyw bryd (gan gynnwys dweud wrthym nad ydych chi eisiau i ni gysylltu â chi at ddibenion marchnata dros y ffôn, neu drwy'r post) trwy gysylltu â ni ar 01633 656757 neu drwy e-bostio customerservice@newportlive.co.uk


Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata os nodwch nad ydych eisiau i ni gysylltu â chi at ddibenion o'r fath.   Gallwn sicrhau na fyddwn byth yn rhannu, gwerthu na chyfnewid eich manylion ag unrhyw drydydd parti at eu dibenion marchnata nhw na rhoi gwerth arian ar eich data.

Defnyddio Teledu Cylch Cyfyng

Byddwn yn monitro ac yn recordio delweddau gan ddefnyddio teledu cylch cyfyng yn ein lleoliad. Caiff delweddau eu recordio at ddibenion atal troseddu a diogelwch cyhoeddus.

 

 

Recordio ymwelwyr i'n lleoliadau

Mae’n bosibl y byddwn ni, neu drydydd parti a awdurdodwn, yn cynnal recordiad ffilm a/neu sain yn ystod, cyn neu ar ôl perfformiad a/neu ddigwyddiad/gweithgaredd yn ein lleoliadau o bryd i’w gilydd. Er ein bod yn cymryd camau rhesymol i sicrhau y caiff ymwelwyr eu hysbysu am recordiad o'r fath pan ddônt i'n lleoliadau a rhoi cyfle iddynt osgoi unrhyw recordiadau, trwy ddod i’n lleoliadau rydych yn cydsynio eich bod chi ac unrhyw bersonau sydd gyda chi (gan gynnwys plant), yn cael eich cynnwys yn y fath recordiadau a ddefnyddiwn yn y pen draw at unrhyw ddibenion masnachol rhesymol, gan gynnwys at ddibenion marchnata a hyrwyddo heb gyfyngiad. Ni fyddwn yn eich talu am eich cynnwys mewn recordiadau o’r fath.

 

Cadw eich gwybodaeth bersonol

Ni fyddwn ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol am y cyfnod sy’n ofynnol er mwyn gweithredu’r gwasanaeth yn unol â gofynion cyfreithiol a rheolau treth a chyfrifo.  Pan na fydd angen eich gwybodaeth bellach, byddwch yn sicrhau y caiff ei gwaredu mewn modd diogel.

Eich gallu i olygu a dileu eich dewisiadau o ran gwybodaeth eich cyfrif
Mae cywirdeb eich gwybodaeth bersonol yn bwysig i ni. Cewch olygu'r wybodaeth ar eich cyfrif Casnewydd Fyw, gan gynnwys eich cyfeiriad a'ch manylion cyswllt unrhyw bryd. Os hoffech newid eich dewisiadau neu ddiweddaru’r manylion sydd gennym amdanoch chi mewn modd arall heblaw am ar-lein, cysylltwch â ni ar 01633 656757, neu e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk neu ysgrifennwch i’r Tîm Marchnata a Data, Casnewydd Fyw, Canolfan Pwll a Thenis Ranbarthol, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Spytty Boulevard, Casnewydd, NP19 4RA


Eich hawliau chi ar eich gwybodaeth bersonol
O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae gennych hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch chi a chywiro unrhyw anghywirdebau. Hefyd mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol, cyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol neu wrthod i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol.


Pe baech yn dymuno ymarfer yr hawliau hyn gofynnwn i chi roi eich cais yn ysgrifenedig a phrofi pwy ydych chi gyda ddau ddarn o ddeunydd adnabod cymeradwy (Pasbort, Trwydded Yrru, Bil Trydan/Nwy/Dŵr). Cyfeiriwch geisiadau at Gasnewydd Fyw - Cais Gwrthrych am Wybodaeth, Canolfan Pwll a Thenis Ranbarthol, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Spytty Boulevard, Casnewydd, NP19 4RA a byddwn yn ymateb o fewn 30 diwrnod o dderbyn eich cais ysgrifenedig a phrawf o bwy ydych chi. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl ynghylch natur eich cysylltiad â ni i’n helpu i ddod o hyd i'ch cofnodion ar ein Ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth 


Wedi i chi roi eich cydsyniad i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, bydd gennych bob amser hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd.

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd

Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru telerau’r polisi hwn unrhyw bryd, felly dylech ei wirio o bryd i’w gilydd. Byddwn yn eich hysbysu am newidiadau sylweddol yn y ffordd rydym yn trin gwybodaeth bersonol trwy anfon hysbysiad i’r prif gyfeiriad e-bost rydych wedi’i roi i ni neu drwy roi hysbysiad amlwg ar ein gwefan(nau).  Trwy barhau i ddefnyddio ein gwefan, ystyrir eich bod wedi derbyn y fath newidiadau.

 

 

Recordio Dosbarthiadau Ymarfer Corff Byw

Mae Casnewydd Fyw yn recordio eu dosbarthiadau ymarfer corff byw ar-lein drwy Zoom at ddibenion ansawdd a diogelwch. Bydd mynychwyr yn derbyn hysbysiad pan fydd recordiad yn dechrau neu os byddwch yn ymuno â sesiwn sydd eisoes yn cael ei recordio. Gall y mynychwr naill ai gydsynio i aros yn y sesiwn neu adael. Caiff y recordiadau hyn eu storio am hyd at 3 blynedd.