Archebu SESIWN A CHARDIAU CASNEWYDD FYW

Sut gallaf archebu sesiwn?

Bydd angen neilltuo pob dosbarth a gweithgaredd o flaen llaw. Bydd yn haws gwneud hyn ar-lein trwy’r ap a’n gwefan. I sicrhau bod eich cyfrif ar-lein wedi’i greu, ewch i Online Booking

Os ydych eisoes yn aelod o Gasnewydd Fyw, dylech fod wedi cael neges e-bost sy’n cynnwys manylion sut i ailosod eich rhif pin. 

Os oes arnoch angen cymorth i greu’ch cyfrif, anfonwch neges e-bost at customerservice@newportlive.co.uk

Sut gallaf gael ap Casnewydd Fyw?

Os oes gennych gyfrif ar-lein neu os ydych wedi cael cerdyn Casnewydd Fyw o’r blaen, mae’n rhwydd neilltuo sesiwn trwy’r ap Casnewydd Fyw sydd ar gael ar gyfer Apple ac Android. Lawrlwythwch ef yma

Cliciwch yma i weld ein fideos sy’n cynnwys rhagor o fanylion am sut i sefydlu eich ap Casnewydd Fyw. 

A allaf ddefnyddio’r cyfleusterau os nad wyf yn aelod?

Gallwch. Gyda Thalu a Chwarae, gallwch neilltuo ar-lein a thalu am eich dosbarth neu sesiwn yn unigol. Bydd arnoch angen cyfrif ar-lein a cherdyn Casnewydd Fyw o hyd.
 

Pam mae arnaf angen cerdyn Casnewydd Fyw?

Am resymau diogelwch, bydd arnoch angen cerdyn Casnewydd Fyw i ddefnyddio ein holl gyfleusterau a gwasanaethau gan fod hyn yn caniatáu i ni fonitro faint o bobl sy’n defnyddio ein lleoliadau a chefnogi gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru, os bydd angen.


 

Sut gallaf gael cerdyn Casnewydd Fyw?

Os nad oes gennych gerdyn, gallwch greu eich cyfrif ar-lein yma https://newportlive.leisurecloud.net/joinathome/MemberRegistration.aspx  

Pan fyddwch yn ymweld am y tro cyntaf, casglwch eich cerdyn Casnewydd Fyw o’r dderbynfa. Bydd angen i chi gael tynnu’ch llun hefyd a bydd angen i chi gael sesiwn Croeso i Aelodau cyn defnyddio’r gampfa. 


 

Sut gallaf gael cerdyn Casnewydd Fyw newydd yn lle fy hen un?

Os ydych wedi colli’ch cerdyn, anfonwch neges e-bost at customerservice@newportlive.co.uk, gan nodi’ch enw, cod post, dyddiad geni a rhif cwsmer, os ydych yn ei wybod. Rhowch wybod i ni hefyd ba un o’n safleoedd y byddwch yn ymweld ag ef fel y gallwn sicrhau bod eich cerdyn yn barod i chi ei gasglu o’r dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Efallai y bydd angen i chi gael tynnu’ch llun hefyd os nad yw eisoes ar ein system.  

A allaf archebu fwy nag un sesiwn y dydd?

Gallwch, ond efallai y bydd rhaid i chi adael y ganolfan ar ôl eich sesiwn gyntaf a dod yn ôl ar gyfer sesiynau dilynol. 

 

App Casnewydd Fyw

Beth allaf ei archebu gan ddefnyddio ap Casnewydd Fyw?

Gallwch archebu amrywiaeth o weithgareddau ar ap Casnewydd Fyw gan gynnwys -

•    Sesiynau yn y gampfa 
•    Cymorth Personol
•    Dosbarthiadau ymarfer corff
•    Sesiynau Nofio Cyhoeddus a Nofio i Deuluoedd 
•    Cyrtiau Tennis
•    Sesiynau Tenis i Oedolion
•    Beicio Trac
•    Beicio i Blant
•    Cyrtiau Badminton a Thennis Bwrdd

Gallwch hefyd ddefnyddio'r ap i gael mynediad i'r Hafan i weld gwersi nofio eich plentyn a dilyn ei gynnydd.

‘Dw i wedi lawrlwytho'r app beth ydw i'n ei wneud nesaf?

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ychwanegu ein tri chlwb at eich app: Canolfan Byw'n Actif, Canolfan Casnewydd a Phentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd ac yna, i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein diweddariadau gwasanaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn 'Hysbysiadau Gwthio' ar gyfer 'fy holl glybiau'. Yn olaf, bydd angen eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif personol 4 digid arnoch i fewngofnodi.

Ches i erioed rif personol, neu alla i ddim cofio fy rhif 4 digid

Dilynwch y ddolen isod i ailosod eich rhif. Gofynnir i chi roi eich cyfeiriad e-bost ac efallai y gofynnir i chi roi rhif aelod. Noder y bydd angen i'ch cyfeiriad e-bost gyfateb i'r un a gedwir ar eich cyfrif â ni. Nid y rhif sydd ar eich cerdyn Casnewydd Fyw gwyrdd neu lwyd yw eich rhif aelod.
https://newportlive.gs-signature.cloud/Connect/membermanagement/MRMpasswordrequest.aspx

Pam mae’n gofyn i mi am Rif Aelod?

Wrth ailosod eich rhif personol efallai y gofynnir i chi roi eich Rhif Aelod.  Mae hyn yn golygu bod gennym un cyfrif neu fwy wedi'i gofrestru dan y cyfeiriad e-bost rydych chi'n ceisio'i ddefnyddio ac mae arnom angen gwybod pa gyfrif yr hoffech ei ailosod

Gofynnir i mi am fy Rhif Aelod, ble caf i o hyd i'r rhif hwn?

Nid dyma'r rhif ar eich Cerdyn Casnewydd Fyw gwyrdd neu lwyd. Mae eich Rhif Aelod ar eich e-bost croeso neu os nad ydy’r e-bost hwn gennych chi, neu os oes angen Rhif Aelod ar gyfer cyfrif aelodau o'r teulu anfonwch e-bost i customerservice@newportlive.co.uk cadarnhewch enw llawn, dyddiad geni a chod post cyfrif sy'n gofyn am rhif adnabod personol newydd 

Gaf i ddefnyddio fy nghyfeiriad e-bost ar gyfer 1 neu ragor o gyfrifon i archebu drwy'r app?

Cewch. Gallwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost ar gyfer nifer o gyfrifon, bydd angen Rhif Aelod ar gyfer pob cyfrif wrth ofyn am neu ailosod rhif personol.

Allaf i ddim archebu sesiwn gampfa ar yr ap

Os nad ydych chi wedi bod mewn sesiwn croesawu aelodau, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r ap i archebu sesiwn campfa nes i chi wneud hynny. Archebwch sesiwn croesawu aelodau drwy'r ap neu ffoniwch y tîm ar 01633 656757, a gallant eich helpu.

Allaf i ddim archebu cwrt tennis neu fadminton gan ddefnyddio'r ap

Os na allwch archebu sesiwn ar yr ap y dylech gael mynediad iddi ffoniwch y tîm ar 01633 656757, a gallant eich helpu. 

Pa mor bell o flaen llaw allaf i archebu gweithgareddau ar yr ap?

Gall aelodau ddefnyddio'r ap i archebu gweithgareddau 8 diwrnod ymlaen llaw. Gall cwsmeriaid talu a chwarae archebu 4 diwrnod ymlaen llaw.

Sut mae newid lleoliadau ar ap Casnewydd Fyw?

Gallwch ddewis a thoglo rhwng lleoliadau wrth fynd i mewn i 'Dewislen (tair llinell lorweddol)' a chlicio ar 'Fy Nghlybiau'.
 

Beth ydw i'n ei wneud os ydw i wedi anghofio fy rhif personol?

Gallwch ofyn am eich rhif personol ar yr ap drwy sgrolio i waelod y dudalen a dewis 'Wedi Anghofio’r Rhif Personol.’ Yna, gofynnir i chi roi eich cyfeiriad e-bost.

Dal i gael problemau gyda'r ap?

Gallai hyn fod oherwydd nifer o bethau gan gynnwys:

•    Swm heb ei dalu ar eich cyfrif
•    Cyfrif cysylltiedig
•    Aelodaeth wedi’i chanslo

Cysylltwch â ni ar 01633 656757 neu e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk os ydych yn cael unrhyw un o'r problemau uchod.

 

 

 

 

 

Ni allaf archebu lle ar rai sesiynau beicio

Sylwch fod angen achrediadau lefel uwch ar gyfer rhai sesiynau. Os nad yw'n glir pa gam mae ei angen ar gyfer eich archeb, cysylltwch â ni ar 01633 656757

‘Dw i eisoes wedi archebu lle ar gyfer sesiwn ond rydw i eisiau archebu lle i rywun arall e.e. aelod o'r teulu

Oherwydd Tracio, Olrhain a Diogelu mae angen manylion pob unigolyn arnom sydd ar fin mynychu ein sesiynau. Am y rheswm hwn ni fyddwch yn gallu archebu nifer o sesiynau drwy eich cyfrif. Os oes gennych fanylion cyfrif y personau ychwanegol, allgofnodi o'ch cyfrif ar yr app a mewngofnodi gan ddefnyddio manylion y personau ychwanegol
 

‘Dw i wedi anghofio pa weithgareddau a sesiynau sydd gen i wedi eu harchebu

Pan fyddwch wedi mewngofnodi i'r ap gyda'ch cyfrif dewiswch y blwch 'Fy Archeb' i weld y gweithgareddau sydd gennych chi ar y gweill 
 

Alla i ganslo fy ngweithgareddau a'm sesiynau gan ddefnyddio'r app

Gallwch, gallwch ganslo eich gweithgareddau a'ch sesiynau hyd at 30 munud cyn amser cychwyn y gweithgareddau neu'r sesiynau.
 

CANLLAWIAU

Pa newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i’m cadw i’n ddiogel?

Rydyn ni wedi rhoi canllawiau ychwanegol ar waith i gadw cwsmeriaid a staff yn ddiogel. Rydyn ni’n dilyn canllawiau a osodwyd gan UK Active ar gyfer y diwydiant ffitrwydd. 

Mae’r rhain yn cynnwys:
•    Gofyniad i neilltuo pob sesiwn o flaen llaw
•    Llai o ddefnyddwyr yn yr adeilad
•    Adleoli campfeydd ac offer, gyda pheiriannau wedi’u gosod ymhellach oddi wrth ei gilydd
•    Newidiadau i’n hamserlenni ac adleoli ein dosbarthiadau
•    Trefniadau glanhau mwy trwyadl
•    Arwyddion cyfeiriad a chadw pellter cymdeithasol i’w dilyn wrth i chi symud o gwmpas ein hadeiladau 

Mae ein holl ganllawiau ar gael yma a gofynnwn i chi ymgyfarwyddo â nhw cyn cyrraedd.

Oes rhaid i mi wisgo gorchudd wyneb yng Nghanolfannau Casnewydd Fyw?

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, byddwn yn gofyn i chi wisgo gorchudd wyneb ym mhob canolfan a chyfleuster Casnewydd Fyw gan gynnwys mewn ystafelloedd newid, toiledau ac wrth symud o beiriant i beiriant yn ardaloedd y gampfa.

Nid yw'n ofynnol i chi wisgo masg os;

  • Rydych yn cymryd rhan mewn ymarfer corff neu chwaraeon e.e. mewn campfa, dosbarth ffitrwydd eu bwll nofio neu wrth reidio Trac y Felodrom lle y mae gennym fesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith. Bydd angen i chi wisgo eich mwgwd ar y ffordd i’ch gweithgaredd ac yn ôl yn ogystal ag wrth symud o beiriant i beiriant yn y gampfa. 
  • Rydych chi dan 11 oed.
  • Rydych chi'n eistedd yn ardal y caffi yn y Pwll a’r Ganolfan Tennis wrth fwyta lluniaeth.
  • Mae gennych esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb (e.e. rhesymau iechyd).

Mae mwy o fanylion ar wefan Llywodraeth Cymru yma https://gov.wales/face-coverings-guidance-public

CYFLEUSTERAU AC ORIAU AGOR

Beth yw oriau agor y cyfleusterau?

Cewch weld ein horiau agor yma.

Allai parcio am ddim yng Nghanolfan Casnewydd?

Gallwch parcio am ddim am 2 awr yng Nghanolfan Casnewydd.

 

Aelodaethau 

Allaf i ymuno fel aelod?

Gallwch, gallwch ymuno fel aelod, mae rhagor o fanylion am ein haelodaeth a beth mae’n gynnwys yma.

 

Cofiwch, efallai na fydd rhai elfennau o'n haelodaeth ar gael ar hyn o bryd nes bydd ein gwasanaethau'n ailagor yn llawn.

Gyda phwy gallaf i siarad am fy aelodaeth Casnewydd Fyw?

Ebostiwch customerservice@newportlive.co.uk a chewch siarad ag un o'n tîm a fydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw ymholiadau.

Beth dylwn i ei wneud os nad ydw i'n barod i ailgychwyn fy aelodaeth?

Os oedd eich aelodaeth yn fyw pan gaeom ni, bydd yn ailgydio yn awtomatig. Os oedd eich aelodaeth wedi'i rhewi, cysylltwch â ni trwy ebostio customerservice@newportlive.co.uk  a bydd ein tîm yn eich helpu i'w hailgychwyn. 

Os nad ydych yn barod i ddychwelyd eto, ac nad yw aelod o'n tîm wedi cysylltu â chi, ebostiwch customerservice@newportlive.co.uk .

Oes rhaid i mi fod yn aelod i ddefnyddio cyfleusterau Casnewydd Fyw?

Nac oes. Gyda Thalu a Chwarae gallwch archebu ar-lein a thalu am eich dosbarth neu sesiwn fesul un. Ond bydd angen cyfrif ar-lein a cherdyn Byw Casnewydd arnoch.

Ydych chi'n dal i gynnig y pas 5 diwrnod?

Ydyn, mae rhagor o wybodaeth am y pas 5 diwrnod am ddim yma

Cymorth Personol

A oes cymorth personol ar gael?

Oes - Gallwch ddarganfod pa gymorth personol rydym yn ei gynnig ar hyn o bryd yma

 

Er mwyn helpu i gefnogi eich ymarfer corff a gwella eich lles gartref, yn yr awyr agored neu gyda ni yn ein canolfannau, rydym wedi lansio ein ap Iach ac Actif. Bydd yr ap, a ddarperir gan Technogym MyWellness, yn gadael i chi reoli eich rhaglen hyfforddi, cofnodi mesuriadau eich corff, cael mynediad at ymarferion ar-lein a chael cymorth hyfforddi gan ein hyfforddwyr.

Dosbarthiadau Ymarferion

Ble caiff y dosbarthiadau ymarfer corff eu cynnal? 

Mae dosbarthiadau mis ar gael yng Nghanolfan Casnewydd, yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol a yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas.

Efallai bod dosbarthiadau wedi'u symud i ardaloedd newydd er mwyn i chi ymarfer ar bellter diogel oddi wrth eraill.  

Pa ddosbarthiadau ymarfer corff sydd ar gael? 

Rydym wedi newid ein hamserlen ond bydd llawer o'ch hoff ddosbarthiadau ar gael o hyd, gan gynnwys Beicio Grŵp Dan Do, Ioga a Zumba. 

Rhaid cadw lle o flaen llaw ar gyfer dosbarthiadau. 

Gall Aelodau gadw lle mewn dosbarthiadau 8 diwrnod ymlaen llaw a defnyddwyr Thalu a Chwarae 4 diwrnod ymlaen llaw.  

Gallwch ddod o hyd i'n hamserlen a chadw’ch lle yma neu drwy App Casnewydd Fyw 

 

A fydd y Stiwdio Beicio Dan Do i Ar-lein ar gael? 

Oes, mae'r Stiwdio Beicio Grŵp Dan Do ar gael ar gyfer dosbarthiadau rhithwir a dosbarthiadau dan arweiniad hyfforddwyr.

Pa ganllawiau ychwanegol sydd ar waith ar gyfer dosbarthiadau ymarfer corff grŵp?  

• Rhaid archebu sesiynau ymlaen llaw 
• Mae rhai dosbarthiadau wedi'u symud i fannau newydd i sicrhau y gall yr holl gwsmeriaid gadw pellter diogel oddi wrth ei gilydd. Sicrhewch eich bod yn gwybod ym mhle mae eich dosbarth cyn cyrraedd.  
•    Bydd y llawr yn cael ei farcio ar gyfer pob cwsmer er mwyn sicrhau eich diogelwch.   
•   Rhaid i gwsmeriaid lanhau’r peiriannau cyn ac ar ôl eu defnyddio. 
• Dewch â'ch diod eich hun.
• Ni fydd loceri nac ystafelloedd newid ar gael. 
•    Ar ôl eich gweithgaredd, gadewch yr adeilad ar unwaith gan ddilyn unrhyw arwyddion a chadw pellter cymdeithasol. 

Gallwch ddod o hyd i’r canllawiau llawn yma.  

Pam mae rhestrau aros wedi'u cyflwyno ar gyfer Dosbarthiadau Ymarfer Corff Casnewydd Fyw?

Oherwydd canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, uchafswm o 30 person a ganiateir i gymryd rhan mewn gweithgarwch grŵp wedi'i drefnu dan do.

Oherwydd y cyfyngiadau hyn mae niferoedd ein dosbarthiadau wedi gostwng yn sylweddol ac am y rheswm hwn rydym wedi cyflwyno rhestrau aros ar gyfer ein dosbarthiadau ymarfer corff mwy poblogaidd.  Drwy wneud hynny, bydd yn caniatáu i gwsmeriaid sydd eisiau dod i ddosbarth sydd eisoes yn llawn gael lle ar y rhestr aros ac os daw lle ar gael ar gyfer y dosbarth hwnnw, cysylltir â nhw drwy e-bost.

Sut rydw i'n ymuno â rhestr aros ar gyfer dosbarth ymarfer corff?

Gall cwsmeriaid ymuno â rhestr aros drwy Connect neu drwy ddefnyddio App Casnewydd Fyw (yr app archebu pinc), y gellir ei lawrlwytho yma.

Gallwch hefyd ffonio Canolfan Gyswllt Casnewydd Fyw ar 01633 656757 neu ddefnyddio'r bot gwesgyrsio ar wefan Casnewydd Fyw i gael eich ychwanegu at restr aros.  

Sut bydda i'n gwybod a oes lle wedi dod ar gael?

Os daw lle ar gael, anfonir e-bost yn awtomatig at gwsmeriaid yn eu hannog i fewngofnodi i'w cyfrifon ac archebu eu lle yn y dosbarth.  Anfonir yr e-bost at bob cwsmer ar y rhestr aros ac felly, mae lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin. 

Gall Canolfan Gyswllt Casnewydd Fyw a Thimau’r Dderbynfa o bryd i'w gilydd hefyd gysylltu â chwsmeriaid ar y rhestr aros yn uniongyrchol os daw unrhyw leoedd ar gael ar fyr rybudd. 

Sut mae ychwanegu fy enw at restr aros am ddosbarth ymarfer corff gan ddefnyddio Connect?

Ar ôl i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Connect a dewis eich dosbarthiadau ymarfer corff, bydd neges yn ymddangos ar y sgrin yn dweud bod y dosbarth yn llawn, ac y gellir eich ychwanegu at y rhestr aros. 

Yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin, ar ôl i chi archebu lle'n llwyddiannus ar restr aros dosbarthiadau byddwch yn cael e-bost yn ategu eich archeb ond ei bod 'Heb ei chadarnhau'.

Sut mae ychwanegu fy enw at restr aros ar gyfer dosbarth ymarfer corff gan ddefnyddio App Casnewydd Fyw (app archebu pinc)?

Ar ôl i chi fewngofnodi i'ch cyfrif drwy’r app Casnewydd Fyw (yr app archebu pinc) a dewis eich dosbarthiadau ymarfer corff, bydd neges yn ymddangos ar y sgrin yn dweud bod y dosbarth yn llawn ac y gellir eich ychwanegu at y rhestr aros.  Cliciwch 'Book' a byddwch yn cael eich ychwanegu at y rhestr aros.

Ni allaf fynychu dosbarth ymarfer corff, sut mae canslo fy lle?

Gall aelodau ganslo drwy Connect neu gan ddefnyddio App Casnewydd Fyw (yr app archebu pinc) hyd at 30 munud cyn i ddosbarthiadau ddechrau.  Mewngofnodwch i'ch cyfrif, dewch o hyd i'r dosbarth roeddech chi i fod i fynd iddo a chlicio 'Canslo'. Yna cewch eich tynnu oddi ar y rhestr aros.

Os na allwch fynd i ddosbarth mwyach, canslwch cyn gynted â phosibl gan mai dim ond hyn a hyn o leoedd sydd yn y dosbarthiadau ymarfer corff, felly gall aelod / defnyddiwr talu a chwarae arall gymryd eich lle. 

Gallwch ganslo eich lle gan ddefnyddio Connect, drwy App Casnewydd Fyw (yr app archebu pinc), drwy ffonio 01633 656757 neu drwy e-bostio customerservice@newportlive.co.uk 

Sut mae diweddaru fy manylion cyswllt?

Os yw eich manylion cyswllt yn anghywir ar ein cofnodion, gall hyn eich atal rhag derbyn negeseuon e-bost hysbysu neu alwadau i roi wybod bod lle ar gael yn eich dosbarth dewisol, cysylltwch â'n Canolfan Gyswllt drwy ffonio 01633 656757 neu e-bostio customerservice@newportlive.co.uk 

Campfeydd

Pa gampfeydd fydd ar gael?

Mae’r campfeydd ar gael yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, y Ganolfan Byw’n Actif ac yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol. Mae pob campfa wedi'i hehangu i ardaloedd newydd i adael lle rhwng y peiriannau felly mae'n bosibl bod yr offer rydych chi wedi arfer ei ddefnyddio wedi symud.

Mae ein campfa yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol yn cynnwys offer Technogym ychwanegol, sy’n cynnwys Biogylched - ymarfer 30 munud newydd sbon wedi'i theilwra ar eich cyfer chi. Mae'r offer yn addasu i'ch corff ac yn eich tywys wrth i chi symud ymlaen.

Sut mae archebu sesiwn yn y gampfa?

Rhaid archebu sesiynau yn y gampfa o flaen llaw.

Gall Aelodau drefnu sesiwn yn y gampfa 8 diwrnod ymlaen llaw a defnyddwyr Thalu a Chwarae 4 diwrnod ymlaen llaw.

Bwciwch ar-lein neu drwy app Casnewydd Fyw.

 

A fydd yr ystafell bwysau rhydd yn Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas ar gael?

Bydd. Mae'r ardal pwysau rhydd yn Felodrom Geraint Thomas ar gael i'w harchebu o flaen llaw yn dilyn y broses uchod.

Pa ganllawiau ychwanegol sydd ar waith ar gyfer y gampfa?

• Rhaid archebu sesiynau o flaen llaw a byddant yn para hyd at 60 munud

•   Rhaid i gwsmeriaid lanhau’r peiriannau cyn ac ar ôl eu defnyddio.

•    Dewch â’ch diod eich hun

•    Mae ambell ystafell newid ochr sych ar gael.

•    Peidiwch â chyrraedd mwy na 5 munud cyn dechrau eich sesiwn. Os ydych yn cyrraedd yn gynnar, nid oes rhaid i chi giwio y tu allan mwyach i fynd i mewn i'r gampfa a'r dosbarth oni bai bod nifer o bobl eisoes yn y dderbynfa. Os ydych yn cyrraedd yn gynnar ar gyfer eich sesiwn, gallwch fynd i mewn i'r gampfa cyn dechrau’r sesiwn a archeboch ond bydd angen archebu lle hefyd yn y sesiwn flaenorol at ddibenion tracio ac olrhain. Mae hyn yn dibynnu ar faint y llefydd sydd ar gael.

•    Bydd angen cerdyn Casnewydd Fyw arnoch i fynd i mewn i'r gampfa.

•    Ar ôl eich gweithgaredd, gadewch yr adeilad ar unwaith gan ddilyn unrhyw arwyddion cyfeiriad a chadw pellter cymdeithasol.

Gallwch ddod o hyd i’r canllawiau llawn yma. 

Faint oes mae angen i mi fod i ddefnyddio'r gampfa?

Gall plant 11-13 oed ddefnyddio'r gampfa ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn.

Gall plant 14 oed a hŷn ddefnyddio'r gampfa ar eu pennau eu hunain.

Sylwer bod rhaid i rieni/plant sydd eisiau defnyddio'r gampfa roi prawf o oedran megis pasbort neu dystysgrif geni wrth ddefnyddio ein campfeydd/cyfleusterau i sicrhau bod pobl yn cadw at y cyfyngiadau oedran. 

NOFIO

Ble mae nofio ar gael?

Mae nofio ar gael yn y Ganolfan Byw’n Actif a’r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol.  

Bydd pwll Canolfan Casnewydd yn aros ar gau.

Gan mai nofio lôn yw’r nofio cyhoeddus, dim ond nofwyr sy'n hyderus mewn dŵr dwfn ac sy’n gallu nofio 25m gaiff gymryd rhan.

Pryd mae’r pwll ar agor ar gyfer nofio cyhoeddus?

Mae ein hamseroedd nofio cyhoeddus ar gael yma 

Oes angen i mi drefnu sesiwn nofio?

Oes, rhaid trefnu sesiwn nofio o flaen llaw.

Dim ond nofio lôn fydd ym mhrif byllau’r ddau leoliad. Bydd angen i chi drefnu sesiwn mewn lôn sy'n berthnasol i'ch cyflymder nofio gan na chaniateir pasio nofwyr eraill. Bydd y sesiynau yn y pwll yn para hyd at 60 munud i roi amser i’n staff i lanhau.

Gall Aelodau drefnu sesiynau nofio 8 diwrnod o flaen llaw a gall defnyddwyr Thalu a Chwarae eu trefnu 4 diwrnod o flaen llaw.

Trefnwch sesiynau ar-lein neu drwy app Casnewydd Fyw  

Pryd mae amseroedd nofio am ddim?

Ceir manylion am nofio am ddim yma. 

Pa ganllawiau ychwanegol sydd ar waith ar gyfer nofio?

Bydd angen i chi drefnu eich amser nofio cyn i chi gyrraedd. Bydd y sesiynau nofio lôn yn para hyd at 55 munud i alluogi ein staff i lanhau.

Rhaid tynnu eich esgidiau wrth ddod i mewn i’r ystafelloedd newid, yna cewch eich cyfeirio at ochr y pwll i dynnu eich dillad a storio eich eiddo.

Bydd angen i gwsmeriaid gyrraedd yn barod i nofio gan na fydd loceri na chytiau newid ar gael cyn iddynt nofio. Caiff cwsmeriaid focs 2 fetr wrth ochr y pwll i dynnu eu dillad a’u storio gydag unrhyw offer. Bydd cawodydd hylendid ar gael wrth ochr y pwll. 

Caiff hyd at 6 o bobl nofio mewn lôn ar unrhyw adeg. 

Bydd ystafelloedd newid ar gael ar ôl i chi nofio os oes eu hangen arnoch.  Gofynnwn i chi eu defnyddio dim ond os yw'n hanfodol gan y bydd lle'n gyfyngedig ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros.  Bydd newid wrth ochr y pwll yn parhau ar gael.

Gadewch yr adeilad ar unwaith gan ddilyn unrhyw arwyddion cyfeirio, a chadw pellter cymdeithasol. 

Ni chaniateir gwylwyr.

Ni chaniateir offer arnofio, padlau nac offer arall (ac eithrio gogls).

Mae ein canllawiau llawn ar gael yma. Bydd angen i chi drefnu eich sesiwn nofio cyn i chi gyrraedd. Bydd y sesiynau nofio lôn yn para hyd at 55 munud i alluogi ein staff i lanhau.

Nofio i’r Teulu

Pa mor ddwfn yw'r pwll?

0.5m yw dyfnder y pen bas, sy'n cynyddu'n raddol i 0.8m. Grisiau gyda chanllaw sy’n arwain i’r pwll yn y pen bas neu ysgol yn y pen dwfn.

Alla i ddod â'm hoffer fy hun?

Dim ond gogls, bandiau braich a chylchoedd arnofio a ganiateir ar hyn o bryd. 

A fydd ystafelloedd newid a chawodydd ar gael?

Ni fydd ystafelloedd newid ar gael cyn i chi nofio felly dylech gyrraedd yn barod i nofio. Bydd cawodydd hylendid ond ar gael cyn i chi nofio. Bydd pob parti yn cael ystafell newid am 15 munud ar ôl nofio. 

Am ba hyd bydd fy sesiwn nofio?

Cewch nofio am 1 awr a chewch 15 munud i newid wedyn.

Gyda phwy galla i ddod?

Rhaid i deuluoedd fod o’r un aelwyd neu swigen. Mae rhagor o wybodaeth yma.

Gaiff plant nofio heb oruchwyliaeth?

Dylid goruchwylio plant yn unol â'n canllawiau goruchwylio plant yma.

Pa ganllawiau ychwanegol y bydd angen i mi eu dilyn?

5 munud cyn dechrau eich sesiwn, ewch i'r man ciwio o flaen yr adeilad. 

Byddwch yn mynd i'r pwll drwy'r prif bentref newid. Rhaid tynnu eich esgidiau cyn mynd i mewn i’r pentref newid. Bydd yr allanfa drwy'r set arall o ddrysau o goridor y pwll addysgu. 

Bydd angen i gwsmeriaid gyrraedd yn barod i nofio gan na fydd loceri na chytiau newid ar gael cyn iddynt nofio. Caiff cwsmeriaid focs wrth ochr y pwll i dynnu eu dillad a’u storio gydag unrhyw offer. Bydd cawodydd hylendid ar gael wrth ochr y pwll. 

Bydd ystafell newid ar gael am 15 munud ar ôl i chi nofio.

Ar ôl eich gweithgaredd, gadewch yr adeilad ar unwaith gan ddilyn unrhyw arwyddion cyfeirio, a chadw pellter cymdeithasol.

Dim ond gogls, bandiau braich a chylchoedd arnofio a ganiateir ar hyn o bryd. 

Gallwch ddod o hyd i’n canllawiau llawn yma.   

Oes angen i mi drefnu sesiwn o flaen llaw?

Oes, rhaid trefnu'r sesiynau hyn o flaen llaw ar ein gwefan neu drwy app Casnewydd Fyw.

Gaf i ddod â chadair wthio i ardal y pwll?

Na chewch. Ni chaniateir cadeiriau gwthio a dylech eu gadael yn eich cerbyd lle bo hynny'n bosibl. Os ydych yn cerdded i'r safle bydd tîm y dderbynfa yn storio eich cadair wthio i chi ei nôl ar ôl nofio.

GWERSI NOFIO

A gaiff fy mhlentyn ddechrau gwersi nofio os nad oedd yn eu gwneud yn barod?

Os ydych chi am ymuno â'n rhaglen gwersi nofio, cofrestrwch ar ein rhestr bostio yma: Cofrestru i gael y Cylchlythyr | Darllenwch newyddion diweddaraf Casnewydd Fyw lle byddwn yn rhannu lleoedd sydd ar y gweill yn y rhaglen.

Gwybodaeth ychwanegol am wersi nofio

Bydd angen i nofwyr ddod yn barod i nofio a gwisgo eu gwisg nofio o dan eu dillad.

Cynghorir pob rhiant/gwarcheidwad i ddefnyddio cod QR y GIG wrth y fynedfa/cyntedd blaen i wirio at ddibenion profi ac olrhain. 

Canolfan Byw’n Actif

Caiff rhieni a phlant giwio yn ardal y caffi 5 munud cyn dechrau gwers. 

Bydd y Porthor Hamdden yn cwrdd â'r plant yn y caffi a bydd yn rhoi bocs i’r plant yn barod i fynd â'u heiddo at ymyl y pwll ac yna eu hebrwng at y pwll lle bydd yn eu trosglwyddo i'w hyfforddwr nofio. 

Mae'n ofynnol i rieni adael yr adeilad ar ôl i wers eu plant ddechrau. 

Caiff pob nofiwr ddefnyddio'r ystafell newid ar ôl nofio. Pum munud cyn diwedd gwers caiff un rhiant fesul plentyn fynd i mewn i'r ystafell newid i roi cymorth i’w blentyn os yw'n hanfodol. Gofynnwn i chi wneud hyn dim ond os yw'n hanfodol gan y bydd lle'n gyfyngedig ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros.  Mae’r trefniadau ar gyfer newid wrth ochr y pwll yn dal yn parhau. 

Bydd y staff yn diheintio unrhyw focsys a ddychwelir ac yn glanhau'r ardal er mwyn sicrhau ei bod yn barod ar gyfer y wers nesaf. 

 

Swigod, Sblash a Gwersi'r Academi yn y Pwll Addysgu (Canolfan Tennis a Nofio Ranbarthol)

Bydd rhieni'n gallu mynd â'u plant i gwrdd â'r Concierge Hamdden wrth y fynedfa i ystafelloedd newid y pwll addysgu lle bydd plant yn tynnu eu hesgidiau a gallant helpu eu plant i newid os oes angen.

Bydd y concierge hamdden yn cwrdd â rhieni ar ddiwedd y wers er mwyn iddynt gasglu’r plant a byddant yn cael eu hebrwng i'r ardal newid ddynodedig. Gall un rhiant i bob plentyn gael mynediad i'r ystafell newid i helpu ei blentyn os oes angen. Os byddwch fel arfer yn nofio gyda'ch plentyn, byddwch yn gallu defnyddio'r cyfleusterau newid ar ôl i chi nofio.

Gofynnwn i chi eu defnyddio dim ond os yw'n hanfodol gan y bydd lle'n gyfyngedig ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros.  Bydd newid wrth ochr y pwll yn parhau i fod ar gael.

 

Gwersi yn y Prif Bwll (Canolfan Tennis a Nofio Ranbarthol)

Cyn gwers eich plentyn

Bydd rhieni a gwarcheidwaid yn gallu hebrwng eu plant i'r pentref newid i newid cyn eu gwers.

Yn ystod gwers eich plentyn

Ar ôl hebrwng eu plentyn i'r ystafelloedd newid, bydd angen i rieni adael y cyfleusterau hyn. Gall rhieni weld y gwersi nofio yn y prif bwll o ardal y balconi, neu brynu lluniaeth o'r caffi.

Ar ôl gwers eich plentyn

Ar ddiwedd y wers, gall rhieni gael mynediad i'r prif bentref newid i helpu eu plentyn i newid.

Gofynnwn i chi eu defnyddio dim ond os yw'n hanfodol gan y bydd lle'n gyfyngedig ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros.  Bydd newid wrth ochr y pwll yn parhau i fod ar gael.

 

Wrth gwrs, byddwn yn parhau i adolygu'r gofynion a'r mesurau diogelwch sydd gennym ar waith. Ond os ydych yn anfodlon ar y canllawiau presennol rydym yn hapus i rewi eich lle yn ein rhaglen nofio a'ch croesawu'n ôl i’r gwersi pan foch yn barod.  

Os hoffech siarad ag aelod o'n tîm nofio i drafod hyn yn fanylach, cysylltwch â 01633 656757 neu e-bostio customerservice@newportlive.co.uk

Gwylwyr yn bywiogi infromation ar gyfer Pwll Addysgu'r Pwll Rhanbarthol a Chanolfan Tenis

O 3 Hydref, byddwn yn cyflwyno amserlen wylio fydd yn rhoi cyfle i riant neu warcheidwad wylio gwers a gweld y cynnydd mae eu plentyn yn ei wneud yn y dŵr. 

Er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o le, mae’r cyfleoedd i wylio gwersi wedi eu penni ar sail rota sy’n cylchdroi.  Bydd yr amserlen wylio yn rhoi cyfle i riant wylio gwers ar sail cylchdro 5 wythnos.  Fodd bynnag, oherwydd ystyriaethau lle, un rhiant fesul nofiwr fydd yn gallu gwylio’r wers. 

Bydd yr amserlen wylio yn cyd-fynd ag amserlen yr athro sydd wedi ei hysbysebu ar gyfer eich plentyn. Mae amserlen y tair wythnos gyntaf i’w gweld isod. 

 

 

Grŵp

Athro Nofio - Pwll Addysgu

Llun

Mawrth

Mercher

Iau

Gwener

Sadwrn

Sul

 

03/10/2022

Grŵp 1

Sherri

Caroline

Sherri

Owain

Diane

Owain

Megan

 

10/10/2022

Grŵp 2

Rachael

Sherri

Zoe

Diane

Owain

Shauna

Sharon

 

17/10/2022

Grŵp 3

 

Diane

 

 

 

 

 

 

Nid oes newidiadau i amser dechrau a gorffen y gwersi nofio, ond ar gyfer gwersi y byddwch chi’n eu gwylio, arhoswch wrth y man gollwng arferol pan fyddwch yn dod â’ch plentyn i’r wers. Os mai eich tro chi i wylio fydd hi, bydd yr Athro Nofio yn eich galw ymlaen i eistedd yn ardal y pwll addysgu.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus a’ch amynedd o ran ailgyflwyno cyfleoedd gwylio yn ein pwll addysgu.

Tenis

Pa wasanaethau tenis sydd wedi dychwelyd?

Mae'r sesiynau tenis canlynol wedi dychwelyd:

  • Cymdeithasol
  • Gwersi Tenis 1 i 1
  • Tenis Cyfeillgar i Awtistiaeth
  • Tenis Cadair Olwyn Iau

Mae gwersi tenis i blant ac oedolion hefyd ar gael.

Cyrtiau Tennis

Mae’n bosibl archebu Cyrtiau Tennis ar gyfer hyd at 4 o bobl ac am 50 munud.  Rhaid i chwaraewyr fod o'r un aelwyd neu swigen.

Gallwch archebu cyrtiau rhwng 8am a 6pm ac mae 50 munud yn costio £5.

Gall aelodau archebu cyrtiau 8 diwrnod o flaen llaw a defnyddwyr Talu a Chwarae 4 diwrnod o flaen llaw.

Bwciwch ar-lein neu drwy app Casnewydd Fyw

 

gwersi tenis

Sut ydw i'n cofrestru fy mhlentyn i wersi tenis?

Gallwch, ebostiwch customerservice@newportlive.co.uk a bydd y tîm yn gallu eich cynghori ar y sesiynau sydd ar gael. 

A fydd ystafelloedd newid a chawodydd ar gael?

NiOes, mae ystafelloedd newid a chawodydd ar gael.

 

A ganiateir gwylwyr?

Oes, caniateir gwylio gwersi tenis plant o'r caffi.

Bydd y tîm hyfforddi yn cofrestru pob plentyn i'w wers gan yr ardal Cwrdd a Chyfarch Gwersi Tenis sydd wedi'i lleoli yn y mannau parcio ceir hygyrch.

A oes angen i mi ddod â'm hoffer fy hun, neu a ellir llogi hyn?

Lle bynnag y bo modd, dewch â'ch rasus eich hun. Bydd rasys ar gael os bydd angen. Bydd gennym stoc gyfyngedig o rasys ar gael i'w gwerthu o £20. 

Dyma'r cynhyrchion tenis rydym yn eu gwerthu

beicio i blant

Beth mae sesiynau Beicio Plant wedi'i ddychwelyd?

I gael gwybod beth mae sesiynau Beicio Plant wedi'i ddychwelyd cliciwch yma.

Beicio Trac

Oes angen i mi ddod â'm hoffer fy hun, neu a fydd modd ei logi?  

Bydd angen i chi ddod â’ch beic a’ch offer eich hun.

Mae beiciau llogi ar gael ac fe'u cynhwysir yn y rhan fwyaf o'n sesiynau i ddechreuwyr. Ffoniwch 01633 656757 i archebu.

A gaf i fynd i sesiwn os byddaf yn mynychu felodrom arall?  

Os ydych chi wedi’ch achredu gan felodrom arall, ffoniwch 01633 656757 i siarad â’n tîm Datblygu Trac a fydd yn gallu eich cynghori.  Mae’n RHAID i chi wneud hyn cyn cadw lle. Ni chaniateir mynediad i unrhyw feicwyr oni bai eu bod wedi archebu sesiwn ymlaen llaw.  

A ellir trosglwyddo fy achrediad yn y felodrom er mwyn i mi allu beicio mewn felodromau eraill yn y Deyrnas Gyfunol?

Os oes gennych achrediad gyda ni ac yr hoffech i hwn gael ei gynnwys ar gofrestr y DG gyfan, rhowch eich cyfeiriad, dyddiad geni, rhif ffôn cyswllt a rhif trwydded Beicio Prydeinig i ni a gallwn eu hanfon i Fanceinion i'w cynnwys ar gofrestr y DG, sy’n cael ei chadw yno.  

 Anfonwch fanylion at customerservice@newportlive.co.uk  a fydd yn eu trosglwyddo i'r tîm datblygu beicio.   

Momentwm

 

Sgiliau Beicio i Oedolion

Pa ddillad y dylech chi eu gwisgo?

Nid oes angen dillad beicio penodol ar gyfer y sesiynau. Mae dillad arferol yn iawn cyn belled â'ch bod yn ymwybodol y gallent fynd yn wlyb neu’n frwnt, neu gael eu staenio gydag olew cadwyn. Ceisiwch osgoi gwisgo dillad llac, yn enwedig trowsus llac, i'w hatal rhag cael eu dal yn y beic.

Gwisgwch haenau dal dŵr neu gynnes gan fod y sesiynau yn cael eu cynnal yn yr awyr agored ac yn profi pob math o dywydd.

Er ei fod yn ddewisol, efallai y byddai siorts wedi'u padio a'ch menig eich hun yn fwy cyfforddus.

Pa esgidiau y dylech chi eu gwisgo?

Gallwch wisgo unrhyw fath o esgidiau rydych yn teimlo'n gyffyrddus â nhw, cyn belled â'u bod yn gorchuddio'r traed cyfan, h.y. dim sandalau nac esgidiau agored. Cofiwch y gall unrhyw esgidiau rydych yn eu gwisgo fynd yn wlyb neu'n frwnt yn ystod y sesiwn.

A oes angen helmed, goleuadau beic neu fenig arnaf?

Rhaid i feicwyr wisgo helmedau bob amser yn ystod y sesiynau oni bai bod gennych ystyriaethau crefyddol neu feddygol sy'n golygu na allwch eu gwisgo.

Mae helmedau ar gael i'w benthyg mewn amrywiaeth o feintiau, fodd bynnag, mae croeso i chi ddod â’ch un eich hun os oes gennych unrhyw anghenion arbenigol.

Bydd goleuadau beic ar gael ar gyfer teithiau beicio lle bydd eu hangen.

Mae menig yn cael eu hargymell yn fawr hefyd, ond rhaid i chi ddod â’ch rhai eich hun.

A oes angen i mi ddod â beic?

Nac oes, mae gennym fflyd o feiciau sy'n addas ar gyfer pob beiciwr.

Cwblhewch yr holiadur cofrestru cyn eich sesiwn i'n helpu i baratoi'r offer cywir wedi'i deilwra i faint ac uchder eich corff. Yn ogystal, bydd hyn yn eich galluogi i roi gwybod i ni am unrhyw ofynion ychwanegol sydd gennych.

A allaf ddod â fy meic fy hun?

Gallwch, ar yr amod ei fod mewn cyflwr da ac yn addas ar gyfer dysgu a beicio mewn grŵp. Bydd ein hyfforddwr yn asesu ei addasrwydd, ac os oes angen, gallwch fenthyg un o'n beiciau ni ar gyfer y sesiwn.

A allaf ddefnyddio e-feic?

Croesewir e-feiciau sy’n gyfreithlon ar gyfer y ffordd, ond rydym yn argymell bod cyfranogwyr yn y sesiwn Hanfodion Beicio (Lefel 1) yn ymatal rhag eu defnyddio nes eu bod yn cael cyfarwyddyd fel arall gan hyfforddwr, am y gallant gymhlethu'r broses ddysgu.

Bwyd a dŵr

Er mai dim ond awr o hyd yw'r sesiynau, efallai yr hoffech ystyried dod â byrbryd a photel ddŵr y gellir ei hail-lenwi gyda chi.

Lleoliad ac amseroedd

Byddwch ym man cyfarfod y sesiwn ac yn barod i fynd ar yr amser dechrau dynodedig. Gwerthfawrogir cyrraedd ychydig yn gynharach, er mwyn gallu sefydlu pawb a gwneud y mwyaf o'r amser ychwanegol i gael mwy allan o'r sesiwn.

 

A yw'n bosibl i blant gymryd rhan?

Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen Momentwm ar gyfer oedolion 18 oed ac yn hŷn. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn ystyried caniatáu i blant sy'n 14 oed neu’n hŷn ymuno, ond cysylltwch â ni yn gyntaf yn momentwm@newportlive.co.uk am gadarnhad.

 

Atgyweirio Eich Beic

Beth sydd angen i mi ddod gyda mi?

Dim byd, bydd yr holl offer angenrheidiol yn cael eu darparu.

Beth ddylwn i ei wisgo?

Gall trwsio beiciau wneud llanast ac efallai y byddwch yn cael baw, olew neu saim ar eich dillad. Rydym yn argymell gwisgo dillad yr ydych yn hapus eu cael yn frwnt. Am resymau diogelwch, gwisgwch esgidiau sy'n gorchuddio'ch traed cyfan, h.y. dim sandalau nac esgidiau agored. Bydd ffedogau ar gael i unrhyw un a hoffai ddefnyddio un.

 

Rhwydwaith Cerdded

Beth sydd angen i mi ddod gyda mi?

Gwisgwch yn unol â'r tywydd. Rydym yn cynghori gwirio rhagolygon tywydd Swyddfa Dywydd Casnewydd cyn eich sesiwn a gwisgo haenau ychwanegol os rhagwelir gwynt, glaw neu dywydd oer.

Rydym yn argymell gwisgo esgidiau ymarfer neu esgidiau cerdded. Er y gallai esgidiau agored, sandalau ac esgidiau cynfas fod yn gyfforddus yn ystod tywydd sych, efallai na fyddant yn addas os yw'n bwrw glaw neu os ydym yn dod ar draws llwybrau mwdlyd.

A yw’r daith gerdded hon yn addas i mi?

Rydym yn categoreiddio ein teithiau cerdded i dair lefel: "Hawdd," "Cymedrol," ac "Anodd." Os nad ydych yn gyfarwydd â cherdded yn rheolaidd, rydym yn eich cynghori'n gryf i ddechrau gydag un o'n teithiau cerdded "Hawdd" i asesu eich cysur a'ch addasrwydd ar gyfer y gweithgaredd.

A yw'n iawn i ddod â phlant?

Mae croeso i chi ddod â phlant ar y daith gerdded, ond gwnewch yn siŵr eu bod yn gallu ymdopi â chyflymder a hyd y daith yn gyfforddus. Yn ogystal, rhaid i gyfranogwyr dan 18 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.

 

Ymgysylltu â Chyflogwyr

Beth ddylwn i ei wneud os nad yw fy nghyflogwr wedi'i leoli yng Nghasnewydd?

Ar hyn o bryd, mae'r prosiect Momentwm wedi'i leoli'n bennaf yng Nghasnewydd. Fodd bynnag, os yw'ch cyflogwr wedi'i leoli y tu allan i Gasnewydd ond yn cyflogi nifer sylweddol o unigolion sy'n byw yng Nghasnewydd, cysylltwch â ni.

 

Storfa a Llogi Beiciau’r Orsaf

A yw Storfa Beiciau’r Orsaf yn lle diogel i adael fy meic?

Mae Storfa Beiciau’r Orsaf yn ddiogel gyda theledu cylch cyfyng a drysau rheoli mynediad a weithredir gan gardiau Casnewydd Fyw. Rhoddir y cardiau hyn i aelodau a chwsmeriaid sy'n cofrestru eu manylion personol gyda ni yn unig.

Pryd mae'r oriau agor ar gyfer y Storfa Beiciau?

Gallwch fynd i mewn i'r Storfa Beiciau yn ystod yr un oriau ag y mae'r Orsaf ar agor. Ar hyn o bryd, mae'r oriau hyn fel a ganlyn: Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 6am a 10pm, a dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 8am a 8pm.

Rwyf wedi anghofio archebu bachyn beic cyn fy ymweliad, beth ddylwn i ei wneud?

Gallwch archebu bachyn drwy ddefnyddio Ap Casnewydd Fyw, ein gwefan neu siarad â thimau’r dderbynfa yn unrhyw un o'n lleoliadau gan gynnwys Campfa'r Orsaf.

Nid wyf yn aelod Casnewydd Fyw, a gaf i ddefnyddio Storfa Beiciau’r Orsaf o hyd?

Gallwch, gall unrhyw un ddefnyddio Storfa Beiciau’r Orsaf. Bydd angen i'r rhai nad ydynt yn aelodau gofrestru eu manylion gyda ni a chael llun wedi'i dynnu i dderbyn Cerdyn Casnewydd Fyw. Defnyddir y cerdyn Casnewydd Fyw i gael mynediad i Storfa Beiciau’r Orsaf. Gall cwsmeriaid gofrestru eu manylion ar-lein neu drwy siarad â'n timau Gwasanaeth Cwsmeriaid neu dderbynfa. Gall y rhai nad ydynt yn aelodau archebu bachyn beic am £1 neu am £17.50 drwy ddebyd uniongyrchol misol. Rhaid archebu bachau beic ymlaen llaw.

Pam mae angen i mi gofrestru a derbyn Cerdyn Casnewydd Fyw cyn i mi archebu bachyn yn Storfa Beiciau’r Orsaf?

Rhaid i chi, yn y lle cyntaf, gofrestru'ch manylion a chael llun ohonoch wedi’i dynnu i ddefnyddio unrhyw un o'n cyfleusterau yn Casnewydd Fyw gan gynnwys Storfa Beiciau’r Orsaf. Mae hyn yn galluogi creu cyfrif personol i chi a chadw Storfa Beiciau’r Orsaf yn ddiogel.

Gellir cael mynediad at Storfa Beiciau’r Orsaf dim ond trwy dapio’r cerdyn Casnewydd Fyw ar y ddyfais rheoli mynediad sydd ar ochr dde'r drysau.

Sut ydw i'n defnyddio Ap Casnewydd Fyw i archebu fy machyn?

Mae archebu'n hawdd trwy ap Casnewydd Fyw sydd ar gael ar gyfer Apple ac Android. Lawrlwythwch yr ap yma.

Cliciwch yma i wylio ein fideos gyda mwy o fanylion am sut i sefydlu eich ap Casnewydd Fyw. 

Ewch i My Clubs yn adran dewislen yr ap a dewiswch Station, ewch i’r teil Momentwm Bike Hook Hire i weld ac archebu bachau beic.

Faint o fachau beic sydd ar gael yn Storfa Beiciau’r Orsaf?

Mae 32 o fachau beic crog fertigol ar gael, dewch â'ch clo beic i gloi eich beic i'r bachyn.

A ydych chi'n darparu cloeon?

Nac ydym, mae angen i chi ddod â'ch cloeon beic eich hun.

A fydd gan Storfa Beiciau’r Orsaf offer ar gael os bydd angen i mi drwsio fy meic?

Bydd. Mae gorsaf cynnal a chadw beiciau a phwmp ar gael am ddim i aelodau a chwsmeriaid eu defnyddio.

A oes loceri storio ar gael?

Oes, mae loceri storio ar gael ac mae angen rhoi £1 ynddynt er mwyn eu defnyddio.

Mae gen i E-feic. A allaf wefru fy E-feic yn Storfa Beiciau’r Orsaf?

Gallwch, mae gorsafoedd gwefru ar gael, dyma'r bachau sydd wedi'u lleoli wrth ymyl y tryncin gwyn. 

Gyda phwy allaf siarad am unrhyw faterion sy'n codi tra byddaf yn defnyddio Storfa Beiciau’r Orsaf?

Ewch i gampfa'r Orsaf lle bydd aelod o dîm y dderbynfa yn gallu eich helpu.

Rwyf wedi cyrraedd Storfa Beiciau’r Orsaf, ond ni allaf gael mynediad.

Gwiriwch eich bod wedi archebu bachyn beic a’i fod ar gyfer y dyddiad a'r amser cywir.

Os nad ydych wedi archebu bachyn, gallwch wneud hyn drwy'r ap neu drwy siarad â thîm y dderbynfa yng Nghampfa’r Orsaf.

Gwiriwch eich bod wedi tapio eich cerdyn Casnewydd Fyw ar y ddyfais rheoli mynediad.

Os ydych yn dal i gael trafferth yn cael mynediad i Storfa Beiciau’r Orsaf, siaradwch â thîm y dderbynfa yng Nghampfa’r Orsaf.

A allaf adael fy meic dros nos?

Na, mae’n rhaid symud pob beic cyn yr amser cau.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn gadael fy meic yn y Storfa Beiciau dros nos?

Cysylltwch â thîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Casnewydd Fyw ar 01633 656757 neu e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk i roi gwybod i ni eich bod wedi gadael eich beic yn annisgwyl ac i wneud trefniadau ar gyfer ei gasglu.

Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni, byddwn yn adleoli'r beic i leoliad diogel arall, a byddwn yn codi £5 y dydd arnoch, y mae'n rhaid ei dalu cyn nôl y beic.

Rydym yn cadw'r hawl i dynnu unrhyw gloeon sydd wedi'u gosod ar feiciau heb eu hawlio yn y Storfa, ac ni fyddwn yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod a allai ddeillio o'r weithred hon. Bydd beiciau sy'n cael eu gadael ac nad ydynt yn cael eu hawlio am dros fis yn cael eu rhoi i elusennau ailgylchu beiciau.

Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon

A yw aelodau Casnewydd Fyw yn dal i gael 2 docyn sinema am 1?

Ydyn, gall aelodau Casnewydd Fyw ddal i gael 2 docyn am 1. I archebu'r tocynnau hyn ffoniwch ni ar 01633 656757.  Ni allwch archebu'r rhain dros y ffôn.

A yw aelodau Casnewydd Fyw yn dal i gael 2 docyn sinema am 1?

Ydyn, gall aelodau Casnewydd Fyw ddal i gael 2 docyn am 1. I archebu'r tocynnau hyn ffoniwch ni ar 01633 656757.  Ni allwch archebu'r tocynnau hyn ar-lein.

A oes angen i mi brynu tocynnau ar gyfer plant dan 3 oed?

Bydd angen i bob plentyn ac oedolyn yn eich grŵp gael tocyn.

Bydd angen talu am docynnau plentyn ar ôl ei ben-blwydd yn 2 oed. Cyn ei ben-blwydd yn 2 oed, bydd angen iddo gael tocyn am ddim gan staff y swyddfa docynnau - ni ellir archebu'r rhain ar-lein.

Ar gyfer rhai sioeau, sydd wedi'u targedu'n benodol at blant ifanc iawn, bydd angen i bawb yn eich grŵp gan gynnwys plant dan 2 oed dalu am eu tocynnau.

A oes mannau parcio yng Nglan yr Afon?

Nid oes gennym gyfleusterau parcio yng Nglan yr Afon.

Mae maes parcio talu ac arddangos bach ar hyd glan yr afon heibio adeilad Alacrity. Mae mannau parcio hefyd o dan Ganolfan Siopa Friars Walk neu ym Maes Parcio Aml-lawr Canolfan Kingsway sydd ar draws y ffordd.

A oes unrhyw fannau parcio hygyrch yng Nglan yr Afon?

Mae dau fan parcio hygyrch yng Nglan yr Afon. Yn anffodus, ni allwn gadw'r mannau parcio hyn.  Gallwch gasglu a gollwng teithwyr yn uniongyrchol y tu allan i Lan yr Afon. I gael mynediad, pwyswch y botwm ar y rhwystr ym mhen castell yr adeilad.

Mae mannau parcio hygyrch ar gael ym meysydd parcio Friars Walk a Kingsway.

Ble mae'r orsaf drenau agosaf?

Mae Gorsaf Drenau Casnewydd 10 munud ar droed o Lan yr Afon.

O'r orsaf drenau, croeswch ffordd ddeuol Queensway ac ewch ar hyd Cambrian Road sydd i gerddwyr unig. Wedi cyrraedd Bridge Street, trowch i’r dde a mynd ar hyd Commercial Street, wedyn trowch i'r chwith a mynd ar hyd Corn Street (mae Banc Barclays ar y gornel), gan fynd heibio The Potters Pub a Phrif Orsaf Fysus Casnewydd. Wedyn croeswch ffordd ddeuol Kingsway a byddwch wrth Lan yr Afon.

Ble a sut gallwn ni archebu diodydd ar gyfer yr egwyl?

Gellir archebu a thalu am ddiodydd ar gyfer yr egwyl yn y bar neu’r caffi cyn eich perfformiad. Yna bydd y rhain yn barod ac yn aros i chi eu casglu o'r pwynt casglu sydd wedi'i arwyddo fel y gallwch eu mwynhau yn ystod yr egwyl.

A oes gennych ystafell gotiau?

Yn anffodus, nid oes gennym ystafell gotiau yng Nglan yr Afon mwyach. Rydym yn eich cynghori i ddod â dim ond yr hyn a all ffitio ar gefn eich cadair neu o dan y sedd o'ch blaen.

Sut galla’ i archebu gyda cherdyn HYNT?

Os oes gennych gerdyn HYNT ffoniwch ein tîm ar 01633 656757 a bydd yn gallu archebu tocyn HYNT i chi.

Beth yw eich polisi ad-dalu/cyfnewid?

Oni bai am ddigwyddiadau sy’n cael eu canslo, nid ydym yn ad-dalu tocynnau.

Yn amodol ar argaeledd a’n disgresiwn, mae’n bosibl y byddwn yn cyfnewid tocynnau am berfformiad arall o’r un cynhyrchiad os rhoddir rhybudd o 24 awr i ni.

Pa mor bell ymlaen llaw ddylwn i gyrraedd y theatr ar gyfer y sioe?

Rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd 30 munud cyn amser dechrau eich sioe theatr neu 15 munud cyn dechrau eich ffilm i sicrhau digon o amser i brynu unrhyw luniaeth, sganio eich tocynnau a mynd i'ch seddi.

Os ydych am fwynhau bwyd yng Nghaffi Glan yr Afon cyn y sioe, rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd o leiaf awr cyn y sioe.

Pa fynediad i bobl anabl sydd gennych yn y theatr?

Mae ramp wrth ddrysau blaen a chefn Glan yr Afon. Mae mynediad lifft, mynediad i gadeiriau olwyn a chyfleusterau toiled ar gael ar bob lefel ac eithrio’r islawr. Mae naw lle i gadeiriau olwyn yn y theatr ac un ar ddeg o leoedd i gadeiriau olwyn yn y stiwdio. Croesewir cŵn cymorth a gellir gofalu amdanynt yn ystod perfformiadau trwy drefnu hyn ymlaen llawn.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am hygyrchedd yng Nglan yr Afon yma: Casnewydd Fyw | Hygyrchedd

Sut ydw i'n defnyddio fy e-docyn?

Wrth gyrraedd eich sioe neu eich digwyddiad ewch i ddrysau'r awditoriwm lle bydd ein tywyswyr yn sganio'ch e-docyn ac yn caniatáu i chi fynd i mewn i'r awditoriwm. Nid oes angen i chi ddangos eich e-docyn i'r swyddfa docynnau.

Nid wyf wedi derbyn fy e-docynnau, pryd y byddant yn cyrraedd?

Dylai e-docynnau gyrraedd o fewn 15 munud wedi archebu. Os nad ydynt wedi cyrraedd cysylltwch â riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk

A fydd y bar ar agor ar gyfer fy nigwyddiad?

Bydd swm y tocynnau a werthir yn penderfynu faint o fariau fydd ar agor ar gyfer y perfformiad.  Bydd y bariau hyn ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau.

Bydd y caffi bob amser ar agor gan weini detholiad o ddiodydd poeth, meddal ac alcoholig.  Gellir archebu bwyd hyd at 45 munud cyn i'r perfformiad ddechrau. 

Beth yw amseroedd agor ac amseroedd gwasanaethu bwyd Caffi Glan yr Afon?

Gweinir bwyd bob dydd rhwng 9am a 4pm, neu hyd at 45 munud cyn yr amser dechrau ar noson sioe. 

Pa fwytai sy'n agos at Lan yr Afon?

Mae nifer o fwytai, caffis a sefydliadau bwyd brys yn Friars Walk, gyferbyn â Glan yr Afon. Ewch i wefan Friars Walk i gael gwybod mwy: Yfed a Bwyta - Friars Walk Casnewydd

Pa westai sydd gerllaw?

Mae nifer o westai a gwelyau a brecwast yng Nghasnewydd gan gynnwys The Mercure, Travelodge a'r Celtic Manor. Gallwch weld y llety sydd ar gael yng Nghasnewydd ar Booking.com: Booking.com: Hotels in Newport. Book your hotel now!

A oes unrhyw raghysbysebion cyn y ffilmiau yn Sinema Glan yr Afon?

Bydd hysbysebion a rhaghysbysebion cyn y ffilmiau ac mae'r rhain yn dechrau ar amser dechrau hysbysebedig y ffilm. Bydd hyd yr hysbysebion a'r rhaghysbysebion yn amrywio fesul ffilm.

Rwyf wedi dewis fy seddi ar-lein ond nid yw'n gadael i mi archebu fy nhocynnau.

Wrth archebu ar-lein, ni allwch adael un sedd od yng nghanol rhes. Edrychwch ar eich dewis o seddi ac os ydych yn gadael sedd od, dewiswch eto.

Nid yw fy nhocyn sinema yn cynnwys rhes neu rif sedd

Ni chaiff seddi penodol eu rhoi’n rhan o’n rhaglen sinema sy’n golygu na fydd gennych rif sedd penodol. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw dewis lle hoffech chi eistedd wrth gyrraedd.

arall

Pa wasanaethau sydd ar gael i gynorthwyo pobl gartref?

Os nad ydych yn barod i ymuno â ni eto, byddwn yn parhau i’ch cynorthwyo gartref mewn sawl ffordd. 

Les Mills On Demand 
Rhowch gynnig ar Les Mills On Demand yn rhad ac am ddim am 30 diwrnod. Os ydych eisiau parhau wedi hynny, gallwch danysgrifio am gyfradd arbennig o £7.94 y mis, sef pris rydyn ni wedi cytuno arno gyda Les Mills ar gyfer cwsmeriaid Casnewydd Fyw. 


Dysgwch fwy yma

Ap Iach ac Actif 
Rydyn ni wedi cyflwyno ap Iach ac Actif Casnewydd Fyw, sy’n bartner perffaith i’ch helpu i ymarfer a gwella eich lles gartref, yn yr awyr agored neu gyda ni yn ein canolfannau. Gallwch hefyd gael at ein hyfforddwyr sy’n cyflwyno rhai o’n dosbarthiadau a’n hymarferion mwyaf poblogaidd i chi roi cynnig arnynt gartref, yn ogystal ag ymarferion ychwanegol a ddarperir gan Technogym.

 

Dysgwch fwy yma

A yw’r stadiwm ar gael i’w archebu?

Mae ein trac stadiwm nawr ar gael i'w archebu i unigolion yn unig.

Bydd modd archebu sesiynau 50 munud o hyd ar yr awr am 4pm, 5pm a 6pm.

Caniateir i uchafswm o 8 unigolyn fynychu'r sesiynau hyn. Dyrennir lôn i bob unigolyn a bydd yn ofynnol iddo aros yn y lôn honno yn unig.

Ar gyfer archebion grŵp sy’n bod eisoes, bydd ein tîm yn cysylltu â chi ynghylch dychwelyd os caniateir hyn o dan y canllawiau presennol.

Mwy o wybodaeth​​​​​​

A fydd y caffis ar agor?

Mae'r caffi yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ar agor ar gyfer tecawê neu gallwch eistedd dan do, seddau cyfyngedig ar gael. Bydd y caffi yng Nghanolfan Casnewydd yn aros ar gau.

Amseroedd agor Caffi'r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol

A ydy’r cyrtiau ar gael i’w llogi?

Gellir llogi cyrtiau ar gyfer badminton, tennis bwrdd, tennis a phêl bicl; ni allwn gynnig llogi racedi nac offer ar gyfer llogi cwrt felly cofiwch ddod â'ch rhai eich hun. Gall cwsmeriaid brynu yn ein Derbynfeydd gan gynnwys peli a racedi.

Ni fydd llogi cyrtiau yn dychwelyd yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas tan 11 Mai.

Ydy’r ystafelloedd cyfarfod ar gael i'w llogi?

Mae rhai ystafelloedd cyfarfod ar gael i'w llogi, gan ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol ac yn dibynnu ar gapasiti. E-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk  gyda'ch gofynion.

A yw clybiau a grwpiau eraill sy'n defnyddio cyfleusterau Casnewydd Fyw yn dychwelyd?

Bydd angen i glybiau neu grwpiau sy'n archebu gyda ni gyfeirio at eich cynllun chwaraeon gan eich corff llywodraethu a chwblhau ffurflen archebu, asesiad risg Covid-19 manwl newydd (i gefnogi gweithrediad diogel y gweithgaredd chwaraeon) ynghyd â manylion eich swyddog Covid-19 a datganiad dull ar sut y byddwch yn rheoli tracio ac olrhain.  

Pan fo’r holl wybodaeth hon gennych, cysylltwch â bookings@newportlive.co.uk