Rydyn ni’n cynnig rhywbeth i BAWB!

Mae Casnewydd Fyw yn darparu gweithgareddau chwaraeon, hamdden a diwylliannol yng Nghasnewydd i gefnogi iechyd a lles pobl o’r ddinas a’r tu hwnt a'u hysbrydoli i fod yn hapusach ac yn iachach. 

Ynghylch Casnewydd Fyw

Rydym yn fenter gymdeithasol ac yn ymddiriedolaeth elusennol gofrestredig, mae’r arian rydym yn ei ennill yn mynd yn ôl i'r gwasanaethau a'r cyfleusterau rydym yn eu cynnig – felly mae cwsmeriaid Casnewydd Fyw yn ein helpu i gefnogi ein cymuned leol.

Mae gennym nifer o gampfeydd, pedwar pwll nofio, canolfan tenis yn ogystal ag ystod eang o gyfleusterau chwaraeon eraill. Ochr yn ochr â’r rhain, mae Canolfan Glan yr Afon, canolfan theatr a chelf ranbarthol hirsefydlog yn cynnig amrywiaeth o berfformiadau byw, dangosiadau a gweithdai.

Mae Tîm Datblygu Chwaraeon a Chelfyddydau Casnewydd Fyw yn cynnig rhaglenni chwaraeon o safon uchel ledled dinas Casnewydd a’r tu hwnt, i ysgolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol eraill. 

Fe'n llywodraethir gan fwrdd o ymddiriedolwyr ac fe'n gweithredir ar ran Cyngor Dinas Casnewydd. 

Mae Casnewydd Fyw yn gwmni cyfyngedig drwy warant, sy’n gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni 9323582, ac yn elusen gofrestredig; Rhif Elusen 1162220.
 

Ein Cyllidwyr a'n Partneriaid

Staff member showing customer cycling shoes

Gweithio i Casnewydd Fyw

Mae Casnewydd Fyw yn cydnabod bod ei staff yn gwneud y gwahaniaeth a’u bod o hyd yn chwilio am ragor o bobl â gwerthoedd gwych i ymuno â’r tîm.  Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o’n cyfleoedd presennol, byddwn wrth ein bodd yn clywed gennych.

Lady with pompoms teaching a group of children.jpg

Cefnogwch ni

Mae Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen dosbarthu nid-er-elw, sy'n golygu bod ein holl incwm sy’n weddill yn cael ei ailfuddsoddi yn y sefydliad i wella ein rhaglenni, ein cyfleusterau a’n gwasanaethau ac i gefnogi hyfforddiant a datblygiad staff. Fyddai hyn ddim yn bosibl heb eich cefnogaeth barhaus chi.

Group of people in suits stood laughing and smiling

Llogi Corfforaethol a Chyfleoedd

Yn Casnewydd Fyw, ein gweledigaeth yw ysbrydoli pobl Casnewydd a thu hwnt i fod yn hapusach ac yn iachach ac mae gennym lawer o ffyrdd y gallwn eich helpu i gyflawni nodau eich busnes a chefnogi eich sefydliad.

back view of a man running on a treadmill

Ein Cenhadaeth, Gweledigaeth a Gwerthoedd

Ein Cenhadaeth yw bod yn ddewis cyntaf bobl ar gyfer chwaraeon, hamdden, diwylliant ac adloniant, gan ddarparu rhaglenni a digwyddiadau ysbrydoledig mewn cyfleusterau o safon uchel, gyda staff medrus a brwdfrydig sy'n creu bywydau hapusach ac iachach.

outside building of the Velodrome venue

Ein Lleoliadau

Mae Casnewydd Fyw yn rhedeg 7 lleoliad chwaraeon a hamdden ledled Casnewydd.

 

Steve Ward, Chief Executive, giving a presentation.jpg

Aelodau'r Bwrdd a'r Tîm Gweithredol

Cwrdd a Aelodau'r Bwrdd a'r Tîm Gweithredol Casnewydd Fyw.

Ymddiriedolaeth yn Ni

Mae Ymddiriedolaethau Elusennol o bob lliw a llun yn bodoli. Ond mae dau beth yn gyffredin gan bob un. Gwneud daioni a gwneud pethau’n well. Nid ydym ni’n wahanol. Rydym ni’n helpu i wneud eich cymuned yn well, oherwydd fel sefydliad elusennol, rydym wedi’n sefydlu i wneud daioni.

Mwy o Wybodaeth

Eich Cadw’n Ddiogel

Mae Casnewydd Fyw yn ymfalchïo mewn cynnig amgylcheddau diogel, llawn hwyl i bawb eu mwynhau.

Mwy o wybodaeth

Adroddiad y Bwlch Cyflog Rhwng y Ddau Ryw

Mae Casnewydd Fyw wedi cynnal Adroddiad Tâl y Ddau Ryw dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth am y Bwlch Rhwng Cyflog y Ddau Ryw) 2017. Dyma ein adroddiad diweddaraf.

Mwy o wybodaeth

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae Casnewydd Fyw yn falch o fod wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog fel dull o ddangos ei gefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd.

Mwy o wybodaeth

Ceisiadau am Roddion

Gofynnir i Casnewydd Fyw gefnogi cannoedd o achosion a digwyddiadau elusennol gwerth chweil bob blwyddyn. Rydym yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer cymaint o geisiadau â phosibl. 

Mwy o wybodaeth

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae Casnewydd Fyw wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd sy'n agored i bawb, gan wireddu egwyddorion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb. Bydd y gwasanaethau a ddarperir yn cael eu darparu drwy'r weledigaeth a'r gwerthoedd sy'n rhan annatod o arferion gwaith y sefydliad o ddydd i ddydd.

Mwy o wybodaeth

Cwestiynau Cyffredin

Y cwestiynau mae Casnewydd Fyw yn cael eu gofyn fwyaf am bynciau yn ymwneud ag aelodaeth, dosbarthiadau campfa a ffitrwydd, nofio, beicio, tenis a mwy.

Mwy o wybodaeth

Gorsaf Cwestiynau Cyffredin

Dyma rai o gwestiynau mwyaf cyffredin Casnewydd Fyw am Gorsaf.

Mwy o Wybodaeth

Newyddion a Digwyddiadau

29/01/2024

Diolch yn fawr iawn am gefnogi Apêl Cwtsh Nadolig Casnewydd 2023

Darllen mwy
21/12/2023

Cymerwch Eich Cam ac Ymunwch â Casnewydd Fyw!

Darllen mwy
30/11/2023

Nadolig Pawen: Cyhoeddi Pantomeim 2024/25 Glan yr Afon

Darllen mwy