Helpwch i wella iechyd a lles pobl Casnewydd drwy ymuno â Bwrdd Casnewydd Fyw ac ysbrydoli'r gymuned leol i fod yn Hapusach ac yn Iachach.

Rydym yn chwilio am aelodau bwrdd anweithredol ac annibynnol, sy'n frwd dros y celfyddydau a diwylliant, yn ogystal â chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a all helpu i gyflawni ein hamcanion strategol. Mae profiad helaeth mewn Rheolaeth Ariannol, Strategaeth a Llywodraethu yn ddymunol.  Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd ag arbenigedd, egni ac uchelgais i helpu i gyflawni ein gweledigaeth a'n cenhadaeth.

Mae Casnewydd Fyw yn anelu at fod y dewis cyntaf ar gyfer chwaraeon, hamdden, theatr, celfyddydau a diwylliant ar draws Dinas Casnewydd, yn rhanbarthol ledled De Cymru ac yn genedlaethol ledled Cymru a'r DU. Mae gan y sefydliad nifer o gampfeydd a gofodau hyfforddi, pyllau nofio, canolfan tenis, un o ddim ond 5 felodrôm yn y DU a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau ranbarthol sydd wedi ennill ei phlwy.  Mae nifer fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd, rhaglenni chwaraeon, perfformiadau byw a gweithgareddau diwylliannol ar gael.

Mae Casnewydd Fyw yn cynnig cyfuniad cyffrous o wasanaethau yn y canolfannau chwaraeon, hamdden, theatr, y celfyddydau, diwylliant a lles ledled Casnewydd, yn ogystal ag yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ledled Cymru a'r DU. Rydym yn darparu cyfleoedd i hyfforddi a chymryd rhan mewn chwaraeon a diwylliant, o lawr gwlad i berfformiadau a digwyddiadau o’r safon uchaf. Rydym wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau amlwg, gan gynnwys gŵyl y Sblash Mawr, gwersylloedd hyfforddi ar gyfer timau beicio Team GB a Pharalympiaid GB a pharthau cefnogwyr Casnewydd a ddilynodd daith Cymru yn Ewros 2016. Fel sefydliad dielw ac elusen gofrestredig, mae unrhyw warged ariannol a yn mynd yn ôl i wasanaethau a chyfleusterau sy'n cefnogi'r gymuned leol yn barhaus.

Mae Casnewydd Fyw yn darparu ystod eang o wasanaethau o Bentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd (NISV), sy'n gartref i Felodrôm Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol a Stadiwm Casnewydd.  Mae ein lleoliadau eraill yn y ddinas yn cynnwys:  Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon, Canolfan Casnewydd, y Ganolfan Gyswllt a'r Ganolfan Byw’n Actif.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 7 Chwefror 2021.

Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr

MYNEGI DIDDORDEB

CYFLE CYFARTAL