Ddydd Mercher 23 Medi byddwn yn dathlu’r Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol!

Mae Iechyd a Lles mor bwysig, gan gynnwys yn ystod y cyfnod ansicr hwn, a'r Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yw'r cyfle perffaith i gychwyn symud.

Wrth ymweld â'n safleoedd, bydd angen i chi ddilyn ein canllawiau ychwanegol sydd i'ch cadw chi, ein cwsmeriaid eraill a'n staff yn ddiogel, gan gynnwys ymbellhau cymdeithasol a gwisgo masg i'ch gweithgaredd ac oddi yno.

Mae’r manylion llawn yma

Her Ffitrwydd

Ar y Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd, byddwn yn cynnal ein her ffitrwydd!
Cymerwch ran a gallech ennill Dot Amazon Echo. 

Y cyfan y mae angen ichi ei wneud i gael cyfle i ennill yw cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd corfforol a'i gofnodi ar ap newydd Casnewydd Fyw, Healthy and Active.


I gymryd rhan:
1. Lawrlwythwch ap melyn Healthy and Active Casnewydd Fyw (sydd ar gael ar Apple ac Android)
2. Ymunwch â her y Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol
3. Cofnodwch eich gweithgaredd ddydd Mercher 23 Medi

Byddwn yn dewis un person lwcus sy'n cofnodi unrhyw weithgaredd yn enillydd!

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ap Healthy and Active, gan gynnwys sut i'w lawrlwytho a'i osod yma.

Archebwch nawr

Cymorth Personol

Rhaglenni un i un a phersonol bellach ar gael i aelodau.

Mae rhaglen neu sesiwn un i un 30 munud wythnosol wedi'i chynnwys yn eich aelodaeth, ac maent yn ffordd wych o gadw eich taith ffitrwydd ar y trywydd iawn a chyflawni eich nodau. Rydym yn argymell eich bod yn newid rhaglen bob 4-6 wythnos i barhau i wneud cynnydd.

Mae cyfle nawr i ddefnyddwyr talu a chwarae hefyd ymgymryd â sesiwn 1 i 1 gyda hyfforddwr ffitrwydd cymwys am £15 y sesiwn.

Bydd sesiynau cymorth personol yn cael eu cynnal gan gadw pellter cymdeithasol a mesurau eraill ar waith i sicrhau ein bod yn cadw ein staff a'n cwsmeriaid yn ddiogel.

Trefnwch sesiwn 1 i 1 neu raglen gyda’r dderbynfa drwy ffonio 01633 656757 neu drwy ap Casnewydd Fyw!

Fe’u cewch nhw dan adran Cymorth Campfa.

Archebwch nawr

Atgofion o’r 80au

Ar 23 Medi byddwn yn gwisgo ein cynheswyr coesau a’n bandiau chwys neon yn ein dosbarthiadau ffitrwydd a sesiynau’r gampfa ar thema’r 80au!

Byddwn hefyd yn rhannu lluniau o rai o'n hyfforddwyr a'n tîm ffitrwydd o'r 80au!

 

Archebwch nawr

#Fitness2Me

Nod #Fitness2Me yw dathlu beth mae ffitrwydd yn ei olygu i chi gan fod cadw'n gorfforol egnïol yn golygu rhywbeth gwahanol i bob un ohonom.

Ni waeth beth yw eich lefelau gweithgarwch neu ddiddordebau, rydym am i chi rannu beth mae ffitrwydd yn ei olygu i chi, wrth i ni ysbrydoli ein gilydd i fyw bywydau iachach a hapusach drwy fod yn egnïol.

Felly, p’un ai dod yn heini, yn hapus, chwarae gyda’ch wyrion neu gysylltu ag anifeiliaid anwes ydy’ch nos, beth bynnag y mae'n ei olygu i chi, rydyn ninnau eisiau clywed amdano!

Dywedwch wrthym ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio @NewportLiveUK a #Fitness2Me.

Pàs 5 Diwrnod Am Ddim

Os na fuoch chi erioed mewn dosbarth neu gampfa Casnewydd Fyw o'r blaen neu os ydych chi’n aelod ac mae gennych ffrind neu aelod o'r teulu sy'n ystyried ymuno, beth am gofrestru ar gyfer pàs 5 diwrnod am ddim ac ymuno â ni ar y Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol!

Mae tocyn 5 diwrnod am ddim ar gael i gwsmeriaid newydd yn unig ac mae'n gyfle i weld popeth sydd gennym ar gael gan gynnwys campfeydd, dosbarthiadau a nofio.

 

Gofynnwch am docyn 5 diwrnod.

Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cyfleusterau a'n gwasanaethau yma.

Cymerwch gip ar ein cwestiynau cyffredin ar y wefan i weld atebion defnyddiol. 

Wrth ymweld â'n canolfannau, bydd angen i chi ddilyn ein canllawiau Covid-19, sydd ar gael yma.