ein rhaglenni

Rydyn ni’n darparu ystod raglenni Iechyd a Ffitrwydd ar gyfer pobl â chyflyrau iechyd y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i wella eu ffitrwydd a'u lles.

 

Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff 

Nod y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, a elwir yn fwy cyffredin yn NERS, yw darparu cymorth a chanllawiau i bobl â chyflyrau cronig er mwyn gwella eu hiechyd a'u lles.
Ymhlith y cyflyrau mae'r cynllun yn darparu ar eu cyfer ar hyn o bryd mae: 
•    Gofalu am y Cefn
•    Adsefydlu Cardiaidd
•    Atal Cwympiadau ar gyfer yr Henoed
•    Iechyd Meddwl 
•    Cyflyrau Resbiradol 
•    Adsefydlu ar ôl Strôc
•    Rheoli’ch Pwysau 
I gael eich atgyfeirio at ein Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff siaradwch â'ch Gweithiwr Iechyd Proffesiynol neu’ch Meddyg Teulu.  
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff ffoniwch 01633 238510. 

Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Casnewydd Fyw a Chyngor Dinas Casnewydd.
 

Cerrig Camu 

Mae aelodaeth ffitrwydd Cerrig Camu ar gael i'r rhai sydd wedi cwblhau'r rhaglen Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Mae'r aelodaeth yn ddilys am un flwyddyn ac yn costio £18.40 y mis. I ymuno, ffoniwch 01633 656757 neu e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk

ein aelodaethau

 

Eisiau dod yn aelod?

Beth bynnag eich oedran, eich rhyw, eich nodau neu’ch gallu, mae Casnewydd Fyw am i chi fod yn hapusach ac yn iachach. Rydym ni yma i'ch cefnogi a'ch ysgogi. Gwell gennych weithio ar eich pen eich hun? Mae hynny’n iawn hefyd.

Aelodaeth