A oes angen help arnoch i wella eich gweddi, eich blaenlaw neu'ch ôl-law? Rydym yn cynnig sesiynau i ddechreuwyr, chwaraewyr canolradd a chwaraewyr uwch drwy gydol yr wythnos ar ein llysoedd dan do ac awyr agored.

female tennis players shaking hands

Tenis Cymdeithasol

Mae digonedd o ffyrdd hwyliog, cymdeithasol o chwarae tennis a manteisio ar bopeth sydd
gan y gamp ei gynnig yng Nghanolfan Tenis Casnewydd. Mae ein cyfleusterau’n eich
galluogi i chwarae drwy gydol y flwyddyn a byddwch yn siŵr o ddod o hyd i wrthwynebwr
teilwng o gwmpas y ganolfan neu yn un o’n nosweithiau tenis cymdeithasol. 

Mae croeso i chwaraewyr o bob gallu ymuno â’n nosweithiau tenis cymdeithasol

Sesiwn gymdeithasol i oedolion sydd eisiau gwella, Dydd Llun 8-9:30pm, £6.30

Sesiwn Gymdeithasol Ymarfer Gemau i OedolionDydd Iau 8:30pm - 10pm, £6.30

Archebwch Nawr
Cardio Tennis

Tenis Cyflymu’r Galon

Mae tennis cyflymu’r galon yn ffordd wych o gadw’n heini, gweithio eich cyhyrau a gwella eich sgiliau tennis ar yr un pryd!

Gan ddefnyddio driliau ac ymarferion tennis gyda cherddoriaeth â  churiad cryf, bydd y sesiynau 45 munud hyn yn rhoi cyfle i chi daro’r bêl llawer o weithiau, a hefyd gwneud amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd cyn dadgynhesu i ddod â’r sesiwn i ben.

Mae’n sesiwn ymarfer hwyliog, dwysedd uchel sy’n wych ar gyfer gwella eich ffitrwydd cyffredinol. Mae’n agored i bobl o bob oedran a gallu.

Dydd Sadwrn 8 - 8:45am, £5.15 i bobl nad ydynt yn aelodau/AM DDIM i aelodau Casnewydd Fyw.

Archebwch Nawr
Walking Tennis

Tennis Cerdded

Wrth eich bodd yn chwarae tennis ond eisiau chwarae’r gêm mewn ffordd mwy hamddenol?  Mae Tennis Cerdded yn ddiogel, hwyl a chynhwysol ac yn ffordd wych o gadw'n actif!

  • Tennis yw e o hyd – ond gydag ambell i newid.

  • Gallwch adael i'r bêl fownsio ddwywaith am amser ychwanegol.

  • Gallwch chwarae ar gwrt llai a defnyddio offer wedi'i addasu.

Dyw chwaraewyr ddim yn cael rhedeg na neidio.

Mae'r gêm yn agored i unrhyw un - p'un a ydych chi'n chwaraewr tennis gydol oes, yn ddechreuwr pur, yn dychwelyd o anaf neu unrhyw un sydd eisiau chwarae tennis ond ar ei gyflymder ei hun.

Dydd Iau 10-11am, £4*

*Sylwer nad yw'r cynnyrch hwn wedi'i gynnwys gydag aelodaeth Ffitrwydd Casnewydd Fyw.

Archebwch Nawr
Tennis Xpress

Tenis ar Garlam

Os nad ydych wedi chwarae tenis o’r blaen, neu heb chwarae ers hydoedd, yna mae Tenis Ar Garlam yn ddelfrydol ar eich cyfer chi. Mae’n ddull hawdd a hwyliog i ddechreuwyr o oedolion gychwyn ar y gamp.

Yn ystod y cwrs chwe wythnos addysgir sgiliau newydd i chi a dangosir i chi sut mae serfio, taro nôl ac ymlaen a sgorio fel eich bod erbyn y diwedd yn gallu mwynhau gemau hwyliog gyda’ch ffrindiau, eich teulu neu unrhyw un arall sy’n chwarae tennis. 

Dydd Mawrth 7 - 8pm, £51.30 i bobl nad ydynt yn aelodau / £40.50 i aelodau Casnewydd Fyw

Archebwch Nawr
Man coaching another man in a black tshirt

Gwersi tenis un wrth un

Boed yn ddechreuwr neu’n chwaraewr profiadol, gallwn eich helpu i wella’ch gêm!

Mae gwersi un wrth un yn ffordd wych o ddysgu a datblygu eich gêm ar eich pen eich hun neu gyda ffrindiau. Byddant yn eich helpu i wella techneg a chysondeb yn eich gêm. 
Mae ein hyfforddwyr wedi’u hachredu’n llawn gan yr LTA a gallant roi gwersi i aelodau a’r rhai nad ydynt yn aelodau, gan deilwra sesiynau i ddatblygu agweddau ar eich gêm sydd fwyaf pwysig i chi.

 

Cysylltu â ni

Rhowch hyfforddiant tenis yn rhodd

Mae sesiynau hyfforddi 1 wrth 1 yn gyflwyniad gwych i gêm tenis ar gyfer chwaraewyr dibrofiad neu chwaraewyr profiadol sydd am fireinio’u crefft.

gweld anrhegion